Bydd Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers yn perfformio ar ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru 2022 – ond nid dyna’r cyfan!
Ddydd Sul 3 Gorffennaf byddant yn dechrau rhan Abertawe o Daith Gyfnewid Baton y Frenhines, gan barasiwtio gyda’r baton! Yna caiff y baton ei drosglwyddo ar gyfer gweddill y daith gyfnewid!
Cadarnhawyd y bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld ag Abertawe yn ystod ei thaith olaf cyn trosglwyddo i Loegr yr haf hwn, wrth i’r llwybr llawn gael ei ddatgelu.
Mae Birmingham 2022 yn cynnal 16eg Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn swyddogol – taith sy’n uno ac yn dathlu cymunedau ar draws y Gymanwlad yn ystod y cyfnod cyn y Gemau. Yng Nghymru, bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn darparu cyfle i gymunedau brofi’r cyffro ar gyfer Birmingham 2022, wrth i’r 11 o ddiwrnodau o chwaraeon poblogaidd agosáu.
Bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines yn teithio trwy Gymru dros 5 niwrnod, cyn dychwelyd i Loegr a diweddu yn y Seremoni Agoriadol ar gyfer Birmingham 2022 ar 28 Gorffennaf 2022. Bydd y baton yn dechrau ar ei daith ddydd Mercher 29 Mehefin yn Ynys Môn yng ngogledd Cymru, ac yn teithio i lawr y wlad ac ar draws de Cymru, gydag uchafbwynt yn Abertawe ddydd Sul 3 Gorffennaf.
Mae amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer Taith Gyfnewid Baton y Frenhines, gyda chyfleodd i dynnu sylw at straeon nas adroddwyd gan gludwyr y baton sy’n ymdrechu i sicrhau newid yn eu cymunedau.
Disgwylir i Daith Gyfnewid Baton y Frenhines gyrraedd Abertawe ar 3 Gorffennaf yn ystod Sioe Awyr Cymru. Trefnir y Sioe Awyr gan Gyngor Abertawe ac fe’i cynhelir ar 2 a 3 Gorffennaf.
Mae’r amserlen weithgareddau arfaethedig ar gyfer cyrhaeddiad y baton ar 3 Gorffennaf yn Abertawe yn cynnwys:
- Cyrraedd drwy ollyngiad barasiwt gyda Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers – os yw’r tywydd yn caniatáu
- Taith gyfnewid y baton yn mynd tua’r gorllewin ar hyd rhan fer o’r prom yna tua’r dwyrain ar hyd y traeth i ardal y Ganolfan Ddinesig.
Anogir aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan yn y dathliadau a chroesawu cyrhaeddiad y Baton, gan achub ar y cyfle i brofi cyffro Birmingham 2022 yn eu cymuned. Caiff gwefan Tîm Cymru ei diweddaru gyda gwybodaeth dros yr wythnosau nesaf, gyda manylion y digwyddiadau a ble i sefyll ar hyd y llwybr.