Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi mai’r ffefrynnau fydd y prif berfformiad unwaith eto ar y ddau ddiwrnod yn y digwyddiad am ddim.
Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni, sy’n rhan o raglen ddigwyddiadau Joio Bae Abertawe, yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Hwn fydd y tro cyntaf i’r sioe awyr gael ei chynnal mewn dau haf yn olynol wrth i Gyngor Abertawe geisio’i gwneud yn ddigwyddiad blynyddol.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae cynllunio wedi hen ddechrau i Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddychwelyd. Mae hyn wedi cynnwys cyd-drafodaethau i gadarnhau y bydd y Red Arrows byd-enwog, sydd bob amser wedi cael croeso cynnes iawn yn y gorffennol, yn cymryd rhan. Rydyn ni’n benderfynol o barhau i ddiwallu disgwyliadau pobl. Mae’r Red Arrows bob amser yn plesio’r dorf ac mae’r ffaith eu bod nhw’n dychwelyd yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn. Byddwn ni’n cyhoeddi mwy o awyrennau ac adloniant ar y tir dros yr wythnosau nesaf wrth i’r manylion terfynol gael eu trefnu.”
Y llynedd, denodd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru fwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i’r economi leol yn Abertawe.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Ein bwriad yw gwneud y sioe awyr flynyddol yn un o ddigwyddiadau allweddol ein rhaglen Joio Bae Abertawe, sy’n llawn amrywiaeth ac yn addas i deuluoedd. Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith gan fod y digwyddiad yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r DU a’r tu hwnt, yn rhoi adloniant o’r safon orau i bobl leol ar garreg eu drws ac yn rhoi hwb i wariant mewn gwestai, lleoedd gwely a brecwast, siopau, tafarnau, bwytai a busnesau lleol eraill.
“Gan y bydd y sioe awyr ar ddyddiad penodol yn y calendr blynyddol, bydd yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl wrth drefnu eu gwyliau – p’un ai preswylwyr lleol sydd ddim eisiau colli’r sioe neu ymwelwyr â Bae Abertawe sydd eisiau gwneud y sioe’n rhan ganolog o’u taith. Mae sioe awyr flynyddol hefyd yn golygu ein bod ni’n gallu datblygu pecynnau nawdd a chyfleoedd masnachu’r digwyddiad ymhellach yn y dyfodol.”