Bydd miloedd o wylwyr yn ymgasglu ar draeth Abertawe i wylio Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys atyniadau megis y Red Arrows, am ddeuddydd o ddigwyddiadau hedfan gwych ar 6 a 7 Gorffennaf.
Gallai Miss Pick Up, awyren Catalina cwmni Consolidated a oedd yn patrolio yn ystod y rhyfel yng ngorllewin Canada, fod yn boblogaidd iawn ymysg y dorf yn y digwyddiad yn Abertawe.
Dim ond 12 Catalina sy’n addas i’w hedfan sydd ar ôl ac awyren Miss Pick Upyw’r unig un sy’n hedfan yn rheolaidd yn Ewrop.
Eleni, am y tro cyntaf, bydd digwyddiad gyda’r hwyr ar y nos Sadwrn.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Bydd y Catalina’n dod â theimlad o hanes i Sioe Awyr Cymru ym mis Gorffennaf.
“Mae Sioe Awyr Cymru eisoes yn un o ddigwyddiadau am ddim mwyaf y DU, ond eleni rydym am wneud rhywbeth ychwanegol i nodi 50 mlynedd ers i Abertawe ddod yn ddinas.”
Bydd awyren fôr ddeniadol yn rhan o Sioe Awyr Cymru’r haf hwn – 75 o flynyddoedd ar ôl iddi fod yn hela llongau tanfor y gelyn yn yr Ail Ryfel Byd.
Heb os nac oni bai, y Catalina yw’r awyren fôr enwocaf a mwyaf llwyddiannus a adeiladwyd erioed.
Roeddent yn hedfan yn eang yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac enillodd ei chriw ddwy fedel Croes Victoria.
Ers y rhyfel, maent wedi bod yn gwasanaethu â gweithredwyr milwrol a masnachol o gwmpas y byd ac maent wedi rhoi bywyd newydd iddynt fel awyrennau dŵr sy’n diffodd tannau coedwigoedd, awyrennau arolwg a sêr arddangosiadau awyr.
Ceir yr amserlen lawn ar gyfer penwythnos Sioe Awyr Cymru drwy lawrlwytho ap swyddogol o’r App Store sy’n costio £1.99 yn unig ar hyn o bryd.
Llun Awyren Catalina cwmni Consolidated,Miss Pick Up. Llun: Paul Johnson.