Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd Tîm Arddangos Bronco a Thîm Yakovlevs yn cymryd rhan yn y digwyddiad am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 2 a 3 Gorffennaf.
Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn rhan o raglen Joio Bae Abertawe’r cyngor sy’n llawn digwyddiadau a gweithgareddau.
Mae Tîm Arddangos Bronco wedi bod yn arddangos mewn digwyddiadau ar draws Ewrop ers 2010. Er y cafwyd nifer o fodelau amrywiol, mae awyren wreiddiol North American Rockwell OV-10 Bronco yn awyren arsylwi a ddefnyddiwyd gyntaf yn Rhyfel Fietnam.
Gyda mwy na 1,000 o arddangosiadau ym mhedwar ban byd, mae gan Dîm Yakovlevs gyfoeth o brofiad. Wedi’i dylunio gan Yakovlev Design Bureau enwog Moscow, mae’r awyren hefyd wedi’i defnyddio ar gyfer hyfforddiant a chystaldeuaethau erobatig.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr ar gyfer un o’r digwyddiadau yr edrychir ymlaen ato fwyaf yn Abertawe’r haf hwn yn dechrau dwyn ffrwyth.
“Yn ogystal â’r awyrennau eraill sy’n cymryd rhan ac amrywiaeth o weithgareddau ac arddangosfeydd ar y ddaear, bydd Tîm Arddangos Bronco a Thîm Yakovlevs yn diddanu miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe dros y penwythnos ym mis Gorffennaf.
“Bydd mwy o awyrennau’n cael eu cadarnhau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni barhau i edrych ymlaen at y digwyddiad sy’n rhoi Abertawe ar y map yn y DU ac ymhellach i ffwrdd.”
Eleni, dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad Sioe Awyr Genedlaethol Cymru gael ei gynnal am ddwy flynedd yn olynol, wrth i Gyngor Abertawe barhau i ddatblygu’r digwyddiad yn atyniad blynyddol.
Heidiodd mwy na 170,000 o wylwyr i bromenâd Abertawe i fwynhau Sioe Awyr y llynedd, gan greu mwy na £7.6 miliwn i’r economi leol.