Mae’r ap SAGC16 swyddogol, sydd bellach ar gael ar iPhone yn ogystal â ffonau Android a Windows, yn cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am arddangosiadau awyr a thir, dolenni i westai a manylion am fwytai a digwyddiadau eraill yn Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi ymuno â nifer o fusnesau lleol sy’n darparu nifer o gynigion arbennig y gellir eu defnyddio ym Mae Abertawe ac o’i gwmpas yn ystod penwythnos y Sioe Awyr.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru am ddim wedi bod yn llwyddiant mawr i Abertawe ers iddi gael ei chyflwyno yn 2009, ond rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella’r digwyddiad a’r profiad i ymwelwyr.
“Mae’r ap sy’n seiliedig ar Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n syniad gwych, gan alluogi pobl i gael y newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr pan y bônt yn crwydro ac yn mwynhau’r arddangosiadau awyr a thir dros y penwythnos. Yn ogystal â helpu pobl i drefnu eu hymweliad â Bae Abertawe, bydd yr ap hefyd yn cynnwys amserlen y digwyddiad pan gaiff manylion eu cadarnhau, yn ogystal â gwybodaeth am unrhyw newidiadau munud olaf.
“Gobeithiwn y bydd yr ap yn gwella’r profiad i ymwelwyr, sydd gwerth dros £7.6 miliwn i’r economi leol, wedi i sioe’r llynedd ddenu dros 170,000 o wylwyr. Y math yma o boblogrwydd sy’n arwain at nifer o geisiadau gan y cyhoedd i wneud Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n ddigwyddiad blynyddol.
Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf. Ymysg yr arddangosiadau sydd eisoes wedi eu cadarnhau yw The Red Arrows, The Eurofighter Typhoon, The Bronco Demo Team, Team Yakovlevs a Team Raven.
Bydd arddangosiadau eraill, yn ogystal â manylion am adloniant ar y ddaear, yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, ynghyd â chynigion arbennig sy’n cael eu hychwanegu’n gyson wrth i’r digwyddiad nesáu.
Bydd rhestr gynhwysfawr o amserau arddangos yn cael eu rhoi ar yr ap am 10am ar 30 Mehefin.
Gellir lawrlwytho’r ap o iTunes, Google Play ac App Store ffôn Windows.