Bydd jet ymladd arloesol sy’n gallu hedfan ar gyflymder o oddeutu 1,000mya heb ôl-losgwyr yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni.
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd yr Eurofighter Typhoon yn dychwelyd i’r digwyddiad yn yr haf.
Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ar benwythnos dydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf. Hwn fydd y tro cyntaf i’r sioe awyr gael ei chynnal yn ystod dau haf yn olynol wrth i Gyngor Abertawe geisio’i gwneud yn ddigwyddiad blynyddol.
Yn ogystal ag arddangosiadau awyr bydd adloniant ar y ddaear, ffair hwyl a stondinau masnach ar hyd promenâd Abertawe yn rhan o’r Sioe Awyr Genedlaethol hefyd.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yw’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yn y wlad. Y llynedd, denodd mwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i’r economi leol. Mae’n newyddion gwych i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr a dyna pam rydym yn benderfynol o geisio’i sefydlu fel digwyddiad blynyddol.
“Er bod y sioe awyr dros dri mis i ffwrdd o hyd, mae’r cynllunio wedi bod ar y gweill ers sawl mis. Mae’r Eurofighter Typhoon wedi bod yn hynod boblogaidd yn y digwyddiad yn y gorffennol, felly mae’n dipyn o gamp ein bod wedi sicrhau y bydd yn dychwelyd unwaith eto ar gyfer sioe awyr yr haf hwn.”
“Gall preswylwyr lleol ac ymwelwyr sy’n dod i’r ddinas ar gyfer y digwyddiad fod yn sicr ein bod yn gallu cyflwyno sioe o’r radd flaenaf yn yr awyr uwchben Abertawe. Cadarnheir mwy o awyrennau ac adloniant ar y ddaear dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”
Cadarnhawyd eisoes fod y Red Arrows yn ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2016. Ffurfiwyd y Red Arrows, sef
Tîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol, ym 1964. Ers hynny maent wedi perfformio dros 4,700 o arddangosiadau mewn 56 o wledydd ledled y byd.