Mae Sioe Awyr Cymru’n atyniad i’r teulu cyfan. Mae cyfleusterau ar gyfer teuluoedd yn cynnwys:
- Cyfleusterau newid cewynnau
- Ardal bwydo babanod
- Bandiau arddwrn am ddim er mwyn dod o hyd i’ch plant bach/person bregus a gefnogir gan FRF Toyota
- Cyfleusterau plant coll a gwybodaeth
Eleni bydd dwy ardal bwydo babanod ddynodedig. Byddant ar gael ger y man gwybodaeth yn y Ganolfan Ddinesig ac wrth y Senotaff. Cadwch lygad am yr arwydd hwn.
Plant Coll
Os ydych yn colli plentyn neu am roi gwybod am broblem, chwiliwch am y stiward agosaf a fydd yn siarad yn uniongyrchol â’n tîm diogelwch a digwyddiadau dros y radio.
- Eir â phob plentyn coll i Gyfleuster Plant Coll yn y mannau gwybodaeth. Bydd cyhoeddiadau rheolaidd dros y system sain a chaiff disgrifiad o unrhyw blentyn ei roi i bob stiward.
- Os yw rhieni sy’n chwilio am blentyn yn cyrraedd y cyfleuster ac nid yw’r plentyn yno, dylent aros yno a rhoi disgrifiad cyffredinol o’r plentyn. Caiff hyn ei gyfleu i holl staff y digwyddiad dros y radio.
Bandiau arddwrn am ddim er mwyn dod o hyd i’ch plant bach/person bregus a gefnogir gan FRF Toyota.
Gall colli plentyn/person bregus – hyd yn oed am ychydig eiliadau – fod yn ofidus iawn a gall ein cynllun Bandiau Arddwrn i blant bach/person bregus helpu i dawelu’ch meddwl a’ch galluogi i gael cymorth yn gyflym.
Gellir casglu bandiau arddwrn o;
- Meysydd parcio
- Fan gollwng parcio a theithio’r Ganolfan Ddinesig
- Mannau Gwybodaeth y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff
- Y promenâd o Brynmill Lane a’r Ganolfan Ddinesig
- Stondinau’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ger y Senotaff
Rhif ffôn symudol ar fand arddwrn yw’r ffordd symlaf a chyflymaf o helpu plentyn sydd ar goll. Wrth gyrraedd y digwyddiad, gallwch gasglu band arddwrn yn ein mannau gwybodaeth, ar y safle parcio a theithio neu gan staff ein meysydd parcio. Ysgrifennwch rif ffôn symudol y rhieni ar gefn y band arddwrn cyn ei roi ar arddwrn y plentyn. Mae’r bandiau arddwrn hyn yn felyn llachar ac yn ddwrglos.
Mamau a Thadau
Dysgwch eich plentyn i beidio â chynhyrfu os caiff ei wahanu o’i rieni neu ei warcheidwad, ond i chwilio am y stiward agosaf a fydd yn gwisgo siaced gwelededd uchel/felyn llachar neu un o aelodau niferus o’r lluoedd arfog a fydd yno.
Cyngor ar Ddiogelwch Plant
Mae’n hawdd i sylw plant gael ei dynnu mewn mannau prysur. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dod o hyd i’w rhieni eto’n gyflym iawn, ond mae plentyn yn ddiamddiffyn pan fo ar goll, felly mae’n bwysig dysgu plentyn beth i’w wneud. Os ydych ar goll…
- Sefwch yn yr unfan ac edrychwch o’ch cwmpas heb redeg
- Os gwelwch y person roeddech gyda ef, ewch ato a chydio yn ei law
- Os ydych ar goll, ewch at y stiward agosaf a fydd yn gwisgo siaced felen lachar neu lifrai’r lluoedd arfog
- Peidiwch â mynd at unrhyw un arall
…ond y ffordd orau o helpu plentyn sydd ar goll yw ceisio atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf trwy:
- Annog y plentyn i aros yn agos atoch
- Defnyddio awenau neu ddolenni arddwrn
- Ysgrifennu rhif cyswllt ar fand arddwrn y plentyn
- Cario ffotograff diweddar
- Nodi’r hyn mae’r plentyn yn ei wisgo
FRF Toyota – cefnogwyr y bandiau arddwrn
Croeso i Grŵp FRF, ar gyfer eich holl anghenion o ran Toyota, Volvo a Lexus yn Ne Cymru. Busnes teuluol ydyn ni, ac mae 3 cenhedlaeth o’r teulu’n gweithio yn y busnes heddiw. Mae ein teulu o ganghennau hefyd yn tyfu, ac mae gennym bellach 8 cangen ar draws De Cymru ym Mhen-y-Bont, Abertawe, Hwlffordd, Caerfyrddin, ac yng Nghaerdydd a Chasnewydd hefyd, wrth i ni gaffael Toyota Caerdydd, Lexus Caerdydd a Toyota Casnewydd… Rydym yn tyfu! Mae safle Volvo hefyd yn Abertawe! Mae gennym bellach dros 1,000 o gerbydau newydd ac ail-law yn stoc ein grŵp ac rydym yn falch iawn o ddweud mai ni yw cyflenwyr mwyaf cerbydau Toyota a Lexus Cymru. Dewch i weld ein hystafelloedd arddangos cyfoes o’r radd flaenaf, sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion o ran cerbydau, o gyflenwi ceir newydd ac ail-law i gwsmeriaid a busnesau, i rannau gwasanaethu ac ategolion ar gyfer eich Toyota gwerthfawr. Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth dosbarthu ledled y wlad. Cysylltwch â ni a gofynnwch am fideo personoledig o’r car os ydych chi’n dymuno!