Cynhelir Sioe Awyr Cymru yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog a bydd yn dathlu’r cyfraniadau a wnaed i’n gwlad gan y rheini sy’n gwasanaethu a’r rheini sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog ei Mawrhydi.
Mae arddangosfa fawr o stondinau milwrol ac asedau tir a gweithgareddau ‘rhowch gynnig arni’.
Pentref Cyn-filwyr – a gefnogir gan Royal British Legion
Ewch i ymweld â Phentref y Cyn-filwyr i weld yr amrywiaeth eang o elusennau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau milwrol, y mae pob un ohonynt yn gwneud gwaith gwych yn cynorthwyo ein cymuned Lluoedd Arfog yn lleol ac yn genedlaethol. Bydd hefyd Babell Fawr y Cyfamod yn y pentref lle gall cyn-filwyr siarad ac ymlacio dros baned o de a choffi mewn ardal breifat er mwyn cael unrhyw gyngor arbenigol.