Wildcat yw’r genhedlaeth ddiweddaraf o hofrennydd aml-rôl a brynwyd yn benodol i weithredu o Ffrigadau a Dinistrwyr y Llynges Frenhinol.
Tîm arddangos hofrenyddion cyffrous o bedwar yw The Black Cats, sy’n cyffroi cynulleidfaoedd sioeau awyr gyda’u harddangosiadau hedfan deinamig mewn hofrenyddion Wildcat.
Dechreuodd y tîm yn 2001, dan yr enw ‘Lynx Pair’, a nhw yw tîm arddangos hedfan swyddogol cyntaf y Llynges Frenhinol ers i’r ‘Sharks’ chwalu yng nghanol y 1990.
Gofynnir i’r Black Cats sydd wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd, i berfformio ar draws y DU ac mewn nifer o sioeau awyr Ewropeaidd.