Cynhelir Sioe Awyr Cymru unwaith eto ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Gorffennaf 2025! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi yno.
Dros ddeuddydd, bydd rhai o’r peilotiaid a’r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth – mae’r cyfan am ddim!
Nid yw’r holl gyffro’n digwydd yn yr awyr yn unig – bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau’n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy!
Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad bob blwyddyn.
Bydd yr arddangosfeydd ar y ddaear ar agor rhwng 10am a 6pm ar y ddau ddiwrnod.
Cofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook, X ac Instagram i gael y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf cyn digwyddiad 2025.
Sioe Awyr Cymru 2025
- RAF Red Arrows – Dydd Sadwrn a Dydd Sul