Bydd hanes yn dod yn fyw yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn gyda thair awyren eiconig o’r oes a fu.
Mae Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yr Awyrlu Brenhinol wedi ymuno â’r rhestr o atyniadau ar gyfer digwyddiad am ddim eleni a gynhelir ar benwythnos dydd Sadwrn a dydd Sul 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf.
Gan gynnwys Avro Lancaster, Supermarine Spitfire a Hawker Hurricane, caiff y grŵp arddangos ei weld yn aml mewn digwyddiadau i goffáu’r Ail Ryfel Byd. Mae Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain hefyd wedi cymryd rhan mewn sawl seremoni Brydeinig swyddogol, gan gynnwys dathliadau pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed yn 2006 a phriodas y Tywysog William yn 2011.
Mae atyniadau eraill sydd eisoes wedi’u cadarnhau yn cynnwys timau arddangos Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol a’r Typhoon.
Meddai Robert Francis-Davies, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae elfen enfawr o hiraethu am y gorffennol yn rhan o’r math hwn o ddigwyddiad, ac felly rydym wrth ein bodd yn awr i allu cadarnhau cyfranogiad Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn y Sioe Awyr ym mis Gorffennaf.
“Gan gyfuno awyrennau modern, arddangosiadau erobatig o’r radd flaenaf ac adloniant ar y tir, bydd yr arddangosiad hwn ymysg llawer y bydd cannoedd ar filoedd o wylwyr yn eu mwynhau yn yr awyr uwchben Abertawe.
“Bydd mwy o awyrennau’n cael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf wrth i ni barhau i ddatblygu rhaglen y digwyddiad mawr hwn, sy’n werth mwy na £8m i economi’r ddinas.”