Cerddwyr adenydd beiddgar wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru
Bydd cerddwyr adenydd beiddgar yn perfformio yn yr awyr uwchben Bae Abertawe’r haf hwn.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau bod y Breitling Wingwalkers, sy’n enwog ar draws y byd, wedi cael eu hychwanegu at y rhestr o berfformwyr yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf a dydd Sul, 3 Gorffennaf.
Mae tîm Breitling Wingwalkers yn defnyddio awyrennau dwbl Boeing Stearman o’r 1940au sy’n rhuo drwy’r awyr ar gyflymder o hyd at 150mya. Pan fydd yr awyrennau’n hedfan, bydd y cerddwyr adenydd yn perfformio llawsafiadau ac yn dringo o gwmpas yr awyren yn erbyn pwysau’r gwynt, gan godi llaw ar y dorf ar y ddaear ar yr un pryd.
Mae’r tîm wedi perfformio ym mhedwar ban byd, mewn gwledydd sy’n cynnwys Tsieina, India, Awstralia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr o berfformwyr ar gyfer sioe awyr yr haf hwn yn dechrau cynyddu bellach. Mae’r Breitling Wingwalkers yn hynod boblogaidd gyda phobl sy’n dwlu ar erobateg, felly mae eu hychwanegu at sioe awyr mis Gorffennaf yn hwb arall i ddigwyddiad a fydd yn un cofiadwy.
“Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n rhoi adloniant o safon am ddim i bobl leol yn eu dinas eu hunain, ac mae hefyd yn denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr, gan helpu i hybu ein siopau, ein tafarndai, ein gwestai a busnesau eraill.
“Mae’r digwyddiad yn un o brif uchafbwyntiau rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe, sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb yr haf hwn ac yn y dyfodol.”