
Ydych chi’n ystyried mynd â’ch profiad o Sioe Awyr Cymru i’r lefel nesaf? Beth am wella’ch profiad a threulio’ch diwrnod ar Fwrdd Hedfan unigryw Sioe Awyr Cymru.
Bydd eich tocyn i ardal y Bwrdd Hedfan, ar bwys y Senotaff ar Brom Abertawe yng nghanol yr ardal arddangos yn sicrhau golygfa drawiadol a gwych heb ei rhwystro o’r arddangosiadau awyr dros Fae Abertawe.
Mae Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru yn cynnwys;
- Ardal eistedd ddiogel, hamddenol gyda ffens o’i hamgylch i wylio’r sioe yn gyfforddus
- Byrddau a phabell fawr i ddarparu lloches rhag ofn y bydd y tywydd yn arw neu i’w ddefnyddio fel cysgod.
- Bar y mae’n rhaid talu am ddiodydd a chyfleusterau arlwyo ar gyfer bwyd a diod dwym.
- Toiledau arbennig
- Addas i deuluoedd – croesewir plant
- Niferoedd cyfyngedig yn unig
- Cyfle i fynd a dod drwy’r dydd – bydd rhyddid i chi fwynhau’r arddangosiadau ar y ddaear, gan wybod y gallwch ddychwelyd unrhyw bryd!
- Niferoedd cyfyngedig yn unig
- Mae mynediad am ddim i blant dan 3 oed
((Sylwer: ni chaniateir alcohol yn ardal y Bwrdd Hedfan. Ni chaniateir smygu yn ardal y Bwrdd Hedfan.)
Ni chaniateir cŵn, dim ond cŵn tywys.
Tocynnau
Tocynnau ar gyfer 2024 ar gael nawr!
Dod o hyd i ardal y Bwrdd Hedfan
Bydd pabell y Bwrdd Hedfan ger cofeb y Senotaff (côd post SA2 0AS) a bydd baneri ‘Bwrdd Hedfan’ yn dangos yr ardal. Y maes parcio agosaf yw’r Rec (Melyn). Mae’r man gollwng ar gyfer Parcio a Theithio tua 1,000m o ardal y Bwrdd Hedfan.
Travel House – noddwr y Bwrdd Hedfan 2024