Nod Hediad Coffa Brwydr Prydain, a gychwynnwyd ar 11 Gorffennaf, 1957 yn Biggin Hill, yw cynnal a chadw’r awyrennau a fu’n amddiffyn Prydain yn yr Ail Ryfel Byd mewn cyflwr sy’n addas i hedfan i goffáu’r rheiny a laddwyd wrth wasanaethu’r wlad hon.
Dim ond dwy awyren fomio Lancaster sy’n addas i hedfan sydd ar ôl yn y byd allan o gyfanswm o 7,377 a adeiladwyd. Daeth y Lancaster PA474, a fydd yn hedfan yn Sioe Awyr Cymru, oddi ar y llinell gynhyrchu yn ffatri Vickers Armstrong Brychdyn ym Mhenarlâg ar 31 Mai, 1945 ac nid yw wedi cymryd rhan mewn unrhyw ryfela.
Daeth y Supermarine Spitfire, a oedd yn allweddol wrth drechu ymosodiadau awyr y Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain ym 1940, yn symbol o ryddid yn ystod y rhyfel ac ers hynny hi yw’r awyren ymladd Brydeinig enwocaf mewn hanes. Mae chwe Spitfire yn awyrendy Hediad Coffa Brwydr Prydain, allan o gyfanswm o 20,341 o awyrennau a adeiladwyd, mwy nag unrhyw awyren ymladd Brydeinig arall cyn neu ers yr Ail Ryfel Byd.
Chwaraeodd yr Hawker Hurricane, ochr yn ochr â’r Spitfire, rôl hanfodol wrth amddiffyn Prydain mewn brwydrau gwyllt yn ystod haf 1940. Dinistriodd awyrennau Hurricane fwy o awyrennau’r gelyn yn ystod Brwydr Prydain nag yn ystod yr holl amddiffynfeydd awyr a thir eraill gyda’i gilydd. Mae Hediad Coffa Brwydr Prydain yn cynnal a chadw dwy o’r awyrennau ymladd anhygoel hyn: Hurricane LF363, y credir mai hon yw’r Hurricane olaf i fynd i wasanaeth gyda’r RAF; a Hurricane PZ865, yr Hurricane olaf i gael ei hadeiladu allan o gyfanswm o 14,533 o awyrennau. Gallwch weld Hediad Coffa Brwydr Prydain yn Sioe Awyr Cymru ddydd Sadwrn 2 a dydd Sul 3 Gorffennaf.