Bydd awyren Tutor yr RAF hefyd yn hedfan dros Fae Abertawe ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr.
Defnyddir y Grob 115E, a elwir yn Tutor gan yr RAF, ar gyfer Hyfforddiant Hedfan Elfennol gan y 14 Sgwadron Awyr Prifysgol Cymru a’r 12 Ehediad Profiad Awyr ledled y DU. Fe’i defnyddir hefyd gan yr Ysgol Hedfan Ganolog ac i hyfforddi gweithredwyr systemau arfau elfennol yng ngholeg yr RAF yn Cranwell. Mae pob awyren Tutor yng gwasanaeth yr RAF yn cael ei chofnodi yng Nghofrestr Awyrennau Sifil y DU ac yn cael ei darparu gan VT Group.
Caiff y Tutor ei hadeiladu’n bennaf o blastig wedi’i atgyfnerthu gan ffibr carbon, sy’n cyfuno cryfder mawr â phwysau ysgafn. Fel ei rhagflaenydd, y Bulldog, mae gan y Tutor seddi ochr-wrth-ochr ond, yn wahanol i’r Bulldog, mae’r prif offerynnau hedfan ar ochr dde’r lle peilot. Mae hyn yn galluogi’r myfyriwr i hedfan yr awyren o’r sedd ochr dde â ffon llaw dde a sbardun llaw chwith fel bydd y trawsnewidiad i awyren jet gyflym yn haws yn y dyfodol.
Mae gan yr awyren gorff glân iawn a chyfyngiad amser o dri munud â’i phen i lawr, sy’n ei gwneud hi’n ddelfrydol ar gyfer erobateg ac, yn wahanol i awyrennau blaenorol yr RAF, dim ond ychydig o uchder y mae’n ei golli – neu ddim o gwbl – yn ystod dilyniant erobatig lawn. Mae’r Tutor yn awyren hyfforddi gost-effeithiol, fodern, elfennol. Mae’r cyfuniad o nodweddion trin sy’n hawdd eu defnyddio a’i gallu i berfformio’n dda’n ei gwneud hi’n awyren addas i’w defnyddio ar gyfer hyfforddi.