Mae ceisiadau stondinau masnach bellach ar agor ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2024!
P’un a yw’ch busnes yn ymwneud ag arlwyo, marchnata drwy brofiadau, gwybodaeth neu ragor mae amrywiaeth o feintiau ar gael i ddarparu ar gyfer eich anghenion busnes, gyda phrisiau’n dechrau o £335 yn unig (TAN 31 MAWRTH 2024). Rhagor o wybodaeth.
Sioe Awyr Cymru 2023!
Mae Sioe Awyr Cymru, digwyddiad AM DDIM mwyaf Cymru sydd wedi’i drefnu gan Gyngor Abertawe. Cynhelir Sioe Awyr Cymru’r penwythnos hwn (1 a 2 Gorffennaf) ac yn cynnwys arddangosiadau awyr syfrdanol gan dimau o safon fyd-eang ac arddangosiadau rhyngweithiol ar y ddaear. Dyma ychydig o awgrymiadau i’ch helpu i wneud yn fawr o’r penwythnos:
Edrychwch i’r awyr
Mae’r arddangosiadau awyr yn Sioe Awyr Cymru yn cynnwys erobateg cyffrous, amrywiaeth o awyrennau, o hen awyrennau i rai modern, ac arddangosiadau parasiwt patrymog ar draws olygfa hardd Bae Abertawe.
Mae’r timau arddangos yn cynnwys y Red Arrows sy’n enwog yn fyd-eang (a gefnogir gan DS Automobiles yn FRF Motors Swansea), Tîm Arddangos y Typhoon, Tîm Raven, Hediad Coffa Brwydr Prydain, y Norwegian Vampire, P-47 Thunderbolt, Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers, AeroSuperBatics Wingwalkers, Strikemaster, Swordfish, Yak 50, Jet Pitts, Harvard G-NWHF, Supermarine Seafire a Westland Wasp.
Bydd arddangosiadau awyr yn dechrau tua chanol dydd ar y ddau ddiwrnod, y Typhoon bydd yn agor y digwyddiad ddydd Sadwrn! Bydd Red Arrows yn hedfan am 5.00pm ddydd Sadwrn ac am 12.00pm ddydd Sul.
Manteisiwch i’r eithaf ar yr arddangosiadau ar y ddaear
Yn ogystal â’r arddangosiadau erobateg yn yr awyr, mae arddangosiadau rhyngweithiol ar y ddaear i’r teulu cyfan eu mwynhau, gan gynnwys cyfle i weld atgynhyrchiad o awyrennau Typhoon a Spitfire. Rhowch gynnig ar efelychydd y Red Arrows a galwch heibio stondin DS Automobiles FRF Motors Swansea ar yr un pryd.
Bydd adloniant byw am ddim drwy gydol y penwythnos ac yn newydd eleni bydd Parth Moduron ar gyfer y rheini sy’n hoff o geir, gyda delwriaethau lleol gan gynnwys cefnogwr Sioe Awyr Cymru, Sinclair Group.
Mae’r cyffro ar y ddaear yn dechrau bob dydd am 10.00am.
Osgowch unrhyw straen wrth deithio
Mae amrywiaeth o wasanaethau Parcio a Theithio o Stiwdios y Bae (Fabian Way) a Glandŵr, ac amrywiaeth o feysydd parcio dynodedig ar gyfer y digwyddiad. Archebwch le ymlaen llaw er mwyn gwarantu’ch lle yma.
Mae’r meysydd parcio’n agor am 8am ac mae’r gwasanaeth parcio a theithio’n dechrau am 8.30am, gan redeg tan 8.00pm.
Gallwch hefyd deithio i Sioe Awyr Cymru ar y trên neu ar y bws gyda’n partneriaid teithio swyddogol, GWR a First Cymru.
Yn newydd ar gyfer 2023 – parc beiciau dynodedig ar y cae lacrosse Mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin
I sicrhau diogelwch y degau ar filoedd o bobl a fydd yn dod i Sioe Awyr Cymru, bydd amrywiaeth o newidiadau i’r ffyrdd a dargyfeiriadau dros dro ar waith. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau hyn yn: gwybodaeth
Lawrlwythwch yr ap er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddarafDownload the app to keep up to date
Er mwyn gwneud yn fawr o’ch ymweliad, lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru – yr unig le i weld yr amserlen arddangos ar gyfer y penwythnos. Byddwch hefyd yn cael y newyddion diweddaraf yn fyw gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r amserlen, yr holl newyddion diweddaraf, gwybodaeth am yr awyrennau a’r timau, talebau, a gwybodaeth i ymwelwyr.
Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau Apple ac Android am bris untro o £1.99 felly os ydych wedi prynu’r ap yn y gorffennol, gallwch ei lawrlwytho unwaith eto am ddim. Drwy lawrlwytho’r ap mae eich cyfraniad yn helpu tuag at y gost o gynnal Sioe Awyr Cymru.
Cadwch bopeth yn lân
Cofiwch yfed digon a chadw Abertawe’n rhydd o sbwriel yn ystod penwythnos Sioe Awyr Cymru. Bydd tair gorsaf ail-lenwi dŵr AM DDIM i chi eu defnyddio y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig, y Senotaff a gyferbyn â Brynmill Lane, a chwe man ailgylchu ar hyd y promenâd i chi gael gwared ar eich sbwriel. Mwy o wybodaeth: cynaladwyedd.
Gwybodaeth i rieni
Mae Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad i’r teulu cyfan. Mae ein cyfleusterau sy’n addas i deuluoedd yn cynnwys cyfleusterau newid cewynnau a bandiau arddwrn i blant am ddim. Casglwch eich bandiau arddwrn am ddim, a noddwyd gan Dawsons, yn y digwyddiad o
• Meysydd parcio
• Fan gollwng parcio a theithio’r Ganolfan Ddinesig
• Mannau Gwybodaeth y Ganolfan Ddinesig a’r Senotaff
• Y promenâd o Brynmill Lane a’r Ganolfan Ddinesig
• Stondinau’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ger y Senotaff
Mannau gwylio hygyrch
Bydd dau fan gwylio hygyrch ar gael yn Sioe Awyr eleni. Y cyntaf i’r felin gaiff fanteisio ar y cyfleuster hwn.
Bydd Cangen Abertawe o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn y mannau gwylio hygyrch i gefnogi teuluoedd, ac mae man gwylio tawel ar gael ar lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog. Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd ar gael yma.
Joio Bae Abertawe
Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud yr haf hwn ym Mae Abertawe? Galwch heibio’r stondin Joio ger y Senotaff i gydio mewn copi o’n llyfryn Haf i’w Joio, sy’n llawn syniadau i sicrhau eich bod yn cael haf llawn hwyl. Gallwch hefyd fynd i’n gwefan yn www.joiobaeabertawe.com.
Ar ôl y digwyddiad, beth am ymweld â lleoliadau bwyd a diod y ddinas, neu hyd yn oed drefnu i dreulio’r penwythnos yma drwy fynd i www.croesobaeabertawe.com.
Cael y newyddion diweddaraf
Dilynwch ni er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Sioe Awyr Cymru, a thagiwch ni yn unrhyw luniau rydych yn eu tynnu yn ystod y penwythnos.
www.facebook.com/sioeawyrcymru
www.instagram.com/walesairshow
www.twitter.com/sioeawyrcymru
Mae gan wefan Sioe Awyr Cymru, yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud yn fawr o ddigwyddiad eleni.
Diolch i noddwyr
Diolch i’n noddwyr am ein helpu i gyflwyno’r hyn y mae’n rhaid ei fod yn ddigwyddiad mwyaf a mwyaf poblogaidd AM DDIM Cymru, Sioe Awyr Cymru.
Cefnogir y Red Arrows gan DS Automobiles yn FRF Motors Abertawe
Goleg Gŵyr Abertawe – noddwr y Bwrdd Hedfan (Gwerthu mas)
John Pye Auctions – cefnogwr Sioe Awyr Cymru 2023
Sinclair Group – cefnogwr Sioe Awyr Cymru 2023
Great Western Railway – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2023
First Cymru – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2023
Dawsons Estate Agents – noddwyr bandiau arddwrn ar gyfer plant sydd ar goll
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Sioe Awyr Cymru 2023 a hoffem ddiolch i’n holl noddwyr a chefnogwyr am ein helpu i wneud y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad am ddim i deuluoedd mwyaf Cymru.
Mannau gwylio hygyrch ar gael
Mae trefnydd Sioe Awyr Cymru, Cyngor Abertawe, yn gweithio i sicrhau y gall y rheini ag anghenion hygyrchedd fwynhau’r digwyddiad.
Mae swyddogion yn gweithio gyda changen Abertawe o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn ystod sioe mynediad am ddim eleni ar 1 a 2 Gorffennaf.
Bydd dau fan gwylio hygyrch – yn y Senotaff a’r Ganolfan Ddinesig. Bydd y ddau yn cynnig toiledau i’r anabl, cadeiriau i gymdeithion, golygfeydd o’r arddangosiadau a’r traeth – a bydd cefnogwyr cangen Abertawe o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yno i ddarparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd.
Mae cynlluniau ar gyfer man gwylio tawel ar lawr cyntaf llyfrgell y Ganolfan Ddinesig.
Meddai llefarydd ar ran cangen Abertawe o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, “Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda Chyngor Abertawe yn ystod Sioe Awyr Cymru 2023 ac ar gyfer digwyddiadau eraill yn y dyfodol.”
Meddai aelod y cabinet, Robert Francis-Davies, “Rydym am i bawb fwynhau’r Sioe Awyr – mae’n uchafbwynt o raglen digwyddiadau blynyddol wych Abertawe.”
Bydd ymwelwyr â’r Sioe Awyr yn gallu defnyddio toiledau parhaol i’r anabl gan gynnwys y rheini ym Marina Abertawe, y Ganolfan Ddinesig, Llyn Cychod Parc Singleton, Lido Blackpill, Sgwâr Ystumllwynarth a Knab Rock. Bydd angen allwedd RADAR ar gyfer rhai ohonynt.
Mae safleoedd Changing Places, gyda chyfleusterau toiled hygyrch i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio toiledau hygyrch arferol, ar gael yn y Ganolfan Ddinesig, The Secret Beach Bar & Kitchen, Toiledau Cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant (allwedd RADAR), Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Hamdden yr LC a Gorsaf Drenau Abertawe.
Yn y sioe, bydd y rhan fwyaf o arlwywyr, masnachwyr ac arddangosfeydd wedi’u lleoli ar hyd neu’n agos at ffordd darmac neu’r prom.
Bydd rampiau a chyrbau wedi’u gostwng ar gael mewn nifer o fannau ar hyd Oystermouth Road i wella hygyrchedd.
Mae Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yn darparu sgwteri a chadeiriau olwyn pweredig yn ogystal â chadeiriau olwyn arferol i helpu’r rheini â symudedd cyfyngedig i siopa neu ymweld â chyfleusterau eraill yng nghanol y ddinas.
Mae’r cyngor hefyd yn gweithio gyda Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe ar y Sioe Awyr a digwyddiadau eraill yn ystod y flwyddyn.
Bydd mannau gwylio hygyrch y Sioe Awyr ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Mwy o wybodaeth: Hygyrchedd.
Newidiadau dros dro i’r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru
Cyhoeddwyd amrywiaeth o newidiadau dros dro i’r ffyrdd i sicrhau y gall miloedd o bobl fwynhau Sioe Awyr Cymru eleni’n ddiogel.
Mae’r newidiadau dros dro ar gyfer sioe 2023 yr un peth â’r rheini a oedd ar waith ar gyfer y digwyddiad hynod lwyddiannus yr haf diwethaf.
Byddant yn cynnwys ardaloedd glan môr ar hyd Oystermouth Road a Mumbles Road, a nifer o ffyrdd yn ardal Sandfields a Pantycelyn Road, Townhill. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin ac 11pm ar 4 Gorffennaf.
Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg a gellir cael mynediad i’r Marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Rhoddwyd gwybod i unrhyw fusnesau a sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar benwythnos yn y ddinas y disgwylir iddo fod yn brysur. Mae trefniadau ar waith ar gyfer parcio a mynediad i wylwyr, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth.”
Gall pobl sydd â phryderon ynghylch mynediad neu broblemau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad dros ddau ddiwrnod y Sioe Awyr ffonio’r llinell gyswllt i breswylwyr a busnesau ar 01792 635428 rhwng 10am a 6.30pm. Ar gyfer ymholiadau eraill: special.events@abertawe.gov.uk – 01792 635428 (oriau swyddfa arferol).
Rhagor:
• Sioe Awyr Cymru, gan gynnwys newidiadau i’r ffyrdd: www.sioeawyrcymru.com
• Parcio a archebwyd ymlaen llaw: www.bit.ly/WA23parking
• Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-i-breswylwyr/
Sioe Awyr Cymru 2023 – mae newidiadau i’r ffyrdd yn cynnwys y canlynol:
O ganol dydd, ddydd Gwener 30 Mehefin
• Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig – o gyffordd West Way i Brynmill Lane. Ni cheir mynediad at ffordd gerbydau Oystermouth Road tua’r dwyrain neu oddi wrthi ar y cyffyrdd â Bond Street, Beach Street a St Helen’s Road (y gyffordd sydd agosaf at far a bwyty Thai Bay View) yn ystod y cyfnod hwn.
• Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
Yna, o 5am ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf i 5am ddydd Llun 3 Gorffennaf
• Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad o gyffordd West Way i Sketty Lane a bydd dargyfeiriadau ar waith ag arwyddion.
• Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
• Bydd mynediad i Argyle Street drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
• Bydd Pantycelyn Road ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ddydd Sadwrn a dydd Sul
• Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane
Er diogelwch ac i helpu llif y traffig, sicrheir na fydd cerbydau’n parcio ar rai ffyrdd. Bydd hyn yn golygu cyfyngiadau parcio ar rai ffyrdd. Gofynnir i’r rheini yr effeithir arnynt oherwydd cau ffyrdd i symud eu cerbydau i leoliad arall.
Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio cerbyd ymaith o ganol dydd ar 30 Mehefin i 3 Gorffennaf ar y ffyrdd canlynol:
• dwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road yn ardal y Sioe Awyr – ewch i www.walesnationalairshow.com/cy/gwybodaeth-i-ymwelwyr/ffyrddargau am ragor o fanylion ac i weld map o ardal y Sioe Awyr;
• dwy ochr Bryn Road.
Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin i 11pm ar 4 Gorffennaf.
Yn dychwelyd eleni, Team Raven
Yn dychwelyd eleni, mae Team Raven o dde Cymru, tîm arddangos erobateg patrymog sy’n hedfan awyrennau a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain, sydd wedi perfformio ar draws Ewrop.
Mae chwe pheilot hynod brofiadol y tîm hwn, a ffurfiwyd naw mlynedd yn ôl, yn hedfan awyrennau Vans RV-8 21 troedfedd o hyd, â chyflymdra uchaf o 220mya.
Cyhoeddwyd eisoes fod awyrennau bomio’r Spitfire, yr Hurricane a’r Lancaster yn ymddangos fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain, yn ogystal â ffefrynnau’r dorf, Red Arrows yr RAF a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF.
Bydd llawer o awyrennau poblogaidd eraill i’w gweld hefyd a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosfeydd, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn falch iawn fod Team Raven yn mynd i fod yn hedfan dros Abertawe eto’r haf hwn. Bydd yn wych eu cael yn ôl yn yr awyr uwchben Abertawe.”
“Rydym yn diolch i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe.
“Mae’r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy’n arwain at benwythnos gwych i bawb sy’n rhan ohoni. Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol.”