Bydd rhai o awyrennau mwyaf hanesyddol Prydain o gyfnod y rhyfel yn diddanu’r dorf yn ystod Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.
Bydd yr awyrennau byd enwog, y Spitfire a’r Hurricane yn ymuno ag awyren fomio’r Lancaster dros Fae Abertawe fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain (HCBP) yr RAF.
Dyma’r drydedd arddangosfa i’w chadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim a gynhelir dros Fae Abertawe ar 1 a 2 Gorffennaf.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf cyhoeddwyd y bydd y Red Arrows a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF yn ymddangos ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr.
Bydd hefyd nifer o awyrennau poblogaidd eraill ac amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn hapus iawn bod Hediad Coffa Brwydr Prydain yn hedfan dros Abertawe unwaith eto’r haf hwn.
“Rydym yn diolch i holl fasnachwyr a noddwyr y Sioe Awyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe. Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol.”