Yn dychwelyd eleni, mae Team Raven o dde Cymru, tîm arddangos erobateg patrymog sy’n hedfan awyrennau a adeiladwyd ganddynt hwy eu hunain, sydd wedi perfformio ar draws Ewrop.
Mae chwe pheilot hynod brofiadol y tîm hwn, a ffurfiwyd naw mlynedd yn ôl, yn hedfan awyrennau Vans RV-8 21 troedfedd o hyd, â chyflymdra uchaf o 220mya.
Cyhoeddwyd eisoes fod awyrennau bomio’r Spitfire, yr Hurricane a’r Lancaster yn ymddangos fel rhan o Hediad Coffa Brwydr Prydain, yn ogystal â ffefrynnau’r dorf, Red Arrows yr RAF a Thîm Arddangos Typhoon yr RAF.
Bydd llawer o awyrennau poblogaidd eraill i’w gweld hefyd a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear, gan gynnwys arddangosfeydd, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Rydym yn falch iawn fod Team Raven yn mynd i fod yn hedfan dros Abertawe eto’r haf hwn. Bydd yn wych eu cael yn ôl yn yr awyr uwchben Abertawe.”
“Rydym yn diolch i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr am eu cyfraniad at lwyddiant parhaus y sioe.
“Mae’r sioe bob amser yn creu awyrgylch teuluol go iawn sy’n arwain at benwythnos gwych i bawb sy’n rhan ohoni. Mae’n cyfrannu miliynau o bunnoedd at ein heconomi leol.”