Bydd tîm erobatig o’r radd flaenaf y Red
Arrows yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Cymru’r haf hwn.
Bydd y Red Arrows yn hedfan ar ddau ddiwrnod y digwyddiad am ddim hwn gan
Gyngor Abertawe a gynhelir ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.
Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol,
wedi perfformio dros 4,900 o arddangosiadau mewn dros 60 o wledydd ar draws y
byd ers y 1960au.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae hi’n newyddion gwych bod y Red Arrows wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r haf hwn.
“Bydd yn bleser croesawu’n ôl dîm ag enw rhyngwladol mor dda, yn enwedig ar gyfer y flwyddyn arbennig hon, wrth i Abertawe dathlu 50 mlynedd fel dinas.” Dengys y ffigyrau fod Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, wedi denu 250,000 o bobl y llynedd ac amcangyfrifwyd ei bod yn werth tua £9.7 miliwn i’r economi leol.
Get the Official APP!
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Mae’r ap ar gael ar yr Appstore a Google Play. Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Bydd y cynnwys yn ymddangos wrth i bob perffomiwr newydd gael ei gyhoeddi a bydd yr amserlen ar gael ddydd Mercher 3 Gorffennaf.
