Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Yr awyr-lefftenant, Ryan Lawton, o RAF Coningsby fydd peilot arddangosfeydd y Typhoon eleni.
Yn ôl y ffigurau, mae Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, werth miliynau o bunnoedd i’r economi leol, gan helpu i ddenu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i lan y môr a nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.
Prifysgol Abertawe fydd prif noddwr y digwyddiad eleni ac mae’r Red Arrows hefyd wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod tîm arddangos rhagorol arall wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn ystod yr haf, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni’n nod o greu digwyddiad sy’n parhau i fodloni disgwyliadau pobl bob blwyddyn.
“Wrth i’r cyngor barhau i weithio ar drefniadau’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni, gall preswylwyr ac ymwelwyr ddisgwyl mwy o berfformwyr yn cadarnhau eu lle dros yr wythnosau nesaf.
“Yn ogystal ag arddangosfeydd awyr, bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o’r digwyddiad, a gaiff ei gynnal yr haf hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol.”
Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 troedfedd. Mae’r awyren oddeutu 16 metr o hyd ac mae lled ei hadenydd yn mesur dros 11 metr.