Bydd tîm erobatig o’r radd flaenaf y Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r haf hwn.
Bydd y Red Arrows yn hedfan ar y ddau ddiwrnod yn nigwyddiad am ddim Cyngor Abertawe ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Mae’r Red Arrows, a elwir yn Dîm Erobatig y Llu Awyr Brenhinol yn swyddogol, wedi perfformio dros 4,700 arddangosfa mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd ers yr 1960au.
Cyhoeddwyd hefyd mai Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Sioe Awyr Cymru eleni.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae hi’n newyddion gwych bod y Red Arrows wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’r haf hwn.
“Maent ymhlith y timau erobatig mwyaf enwog a phoblogaidd yn y byd, felly mae’n dyst i drefniadaeth, ansawdd a phoblogrwydd parhaus y digwyddiad y byddant yn hedfan uwchben Bae Abertawe unwaith eto ym mis Gorffennaf.
“Cadwch lygad am fwy o gyhoeddiadau dros y misoedd nesaf fel yr ydym yn parhau i gadarnhau ychwanegiadau cyffrous eraill at raglen Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2017. Bydd y digwyddiad unwaith eto’n un o uchafbwyntiau’r rhaglen ddigwyddiadau a gweithgareddau gwych Joio Bae Abertawe
Mae pecynnau cynnar ar gael o hyd i fusnesau a sefydliadau sydd am fod yn rhan o Sioe Awyr yr haf hwn. E-bostiwch mags.pullen@swansea.gov.uk am fwy o wybodaeth, neu ffoniwch 01792 635102.
Ewch i www.sioeawyrcymru.com i gael y newyddion diweddaraf am Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.