Bydd awyren Brydeinig a ddefnyddiwyd yn helaeth yn ystod dwy flynedd gyntaf yr Ail Ryfel Byd yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Cymru yr haf hwn.
Mae’r Bristol Blenheim wedi’i hychwanegu at y rhestr o berfformwyr ar gyfer y digwyddiad am ddim a gynhelir yn yr awyr uwchben Abertawe ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Roedd tua 50 o awyrennau Blenheim yn cefnogi’r ymgiliad o Dunkirk drwy boenydio byddinoedd y gelyn ym 1940.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y Sioe Awyr, a Phrifysgol Abertawe yw prif noddwr y digwyddiad.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Dyma’r tro cyntaf erioed y bydd y Bristol Blenheim yn cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn Abertawe.
“Yn ogystal â Hediad Coffa Brwydr Prydain, mae cadarnhau’r awyren hon yn dangos pa mor benderfynol ydym i gyfuno hiraeth am y gorffennol ag arddangosiadau erobatig cyfoes, gan helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn cynnwys rhywbeth i bawb.
“Sioe Awyr Cymru yw’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yn y wlad. Mae’n bwysig am ei fod yn cynnig adloniant o’r radd flaenaf ar garreg drws pobl, a hefyd am ei fod yn denu miloedd lawer o ymwelwyr o bob ran o dde Cymru ac o bell. Mae hyn yn golygu mwy o wario yn siopau, bwytai, gwestai, tafarnau a busnesau eraill y ddinas, sy’n hwb enfawr i’r economi leol.”
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Mae manylion parcio premiwm a pharcio a theithio ar gyfer Sioe Awyr Cymru bellach ar gael hefyd.
Mae’r awyrennau eraill sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru’n cynnwys Red Arrows yr RAF, tîm arddangos Typhoon yr RAF, Chinook yr RAF, tîm arddangos parasiwt y Tigers a’r Gyro Air Displays.