Rydym yn falch o gadarnhau y cynhelir sioe’r flwyddyn nesaf ar 6 a 7 Gorffennaf 2019.
Mae Sioe Awyr Cymru wedi dathlu blwyddyn lwyddiannus arall yn Abertawe gyda channoedd ar filoedd o obl yn ymweld a’r ddinas i fwynhau sioe am ddim fwyaf y wlad. Roedd y ddau ddiwrnod o hedfan, gan gynnwys perfformiadau gan y Red Arrows, Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain ac awyrennau brwydro o’r Rhyfel Byd laf, yn hudolus i ymwelwyr o bob cwr o’r DU.
Gyda chefnogaeth y lluoedd arfog, mae’r arddangosiadau awyr yn cynnwys awyrennau preifat, rhai masnachol a rhai o’r Llu Awyr Brenhinol, y Fyddin a’r Llynges ynghyd ag arddangosfeydd ar y ddaear. Rydym yn chwilio am stondinau masnach priodol i arddangos eu cynnyrch ar hyd y llinell arddangos.
Mae’r cyfle masnachu unigryw hwn yn cynnwys y manteision canlynol:
- Sioe Awyr fwyaf Cymru
- Cwrdd a miloedd o ddarpar gwsmeriaid newydd
- Lansio neu arddangos eich brand/cynnyrch
- Cyfle gwerthu gwych
- Cyfle posib i gasglu data