Mae Trade Centre Wales hefyd wedi penderfynu bod yn brif noddwr ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, y digwyddiad am ddim gorau o’i fath yn y wlad bellach ond tair wythnos i ffwrdd.
“Mae gennym arddangosfa awyrennau gyffrous iawn ar eich cyfer eleni a bydd y MiG-15 yn ei wneud yn well byth. Mae’n bleser gennym hefyd gadarnhau a chroesawi the Trade Centre Wales fel prif noddwr y digwyddiad ar gyfer 2016.
“Mae llwyth o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni er mwyn trefnu digwyddiad o’r radd flaenaf o’r maint hwn ar gyfer preswylwyr lleol ac ymwelwyr â Bae Abertawe. Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yw un o brif ddigwyddiadau rhaglen digwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe. Mae’n newyddion gwych i bobl a busnesau Abertawe, gan helpu i ychwanegu miliynau o bunnoedd i’r economi leol dros un penwythnos yn unig.”
Meddai Mark Bailey, Cadeirydd Trade Centre Wales, “Rwyf i a’r tîm yn The Trade Centre Wales yn falch iawn o noddi Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2016. Mae’r digwyddiad yn cyd-fynd ag agoriad ein busnes blaenllaw newydd yng ngogledd Caerdydd ar yr A470 yr un penwythnos, ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn ychwanegu at lwyddiant y busnes. Gyda’r digwyddiad yn gobeithio denu mwy na’r 170,000 a ddaeth y llynedd, mae’r Sioe Awyr yn darparu llwyfan gwych er mwyn hyrwyddo Bae Abertawe fel un o gyrchfannau arfordirol gorau’r DU.”
Ymysg yr arddangosiadau eraill sydd eisoes wedi eu cadarnhau mae Cerddwyr Adenydd Breitling, Tîm Parasiwt y Tigers, The Red Arrows, yr Eurofighter Typhoon, Tîm Arddangos Bronco, Team Yakovlevs a Team Raven.
Mae ap swyddogol SAGC16, sydd ar gael ar gyfer ffonau iPhone, Android a Windows ar gael o hyd ar gyfer y pris gostyngedig o £1.49 tan hanner nos 20 Mehefin. Fe’i lansiwyd er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i gefnogwyr y Sioe Awyr Genedlaethol am ddigwyddiad am ddim yr haf hwn.
Mae’r ap yn cynnwys amserlen ddynamig o ddigwyddiadau a fydd yn cael ei diweddaru mewn amser go iawn ar ddiwrnodau’r sioe awyr gyda’r newyddion diweddaraf, gwybodaeth am yr arddangosfeydd awyrennau a thir, dolenni i ddigwyddiadau eraill a gwestai, yn ogystal â manylion am gynigion arbennig a gostyngiadau oddi ar y pris ym mwytai Abertawe a digwyddiadau eraill.
Mae adran cynigion arbennig sy’n cynnwys sawl taleb gostyngiad y gellir eu defnyddio mewn nifer o westai, bwytai ac atyniadau o amgylch Abertawe. Trwy brynu’r ap, bydd gwylwyr hefyd yn helpu i gynnal y Sioe Awyr yn flynyddol.
Mae lleoedd ym meysydd parcio canol y ddinas yn llenwi’n gyflym oherwydd poblogrwydd y digwyddiad, felly mae hefyd yn bosib erbyn hyn gadw lle parcio premiwm yn y Rec. Gellir parcio trwy’r dydd am £16.50 y car, y diwrnod. Mae maes parcio’r Rec, a fydd ar agor o 9am tan 7pm ar ddau ddiwrnod y sioe awyr, ger y brif ardal arddangosiadau tir.
Ewch i www.sioeawyrgenedlaetholcymru.com i gael gwybodaeth am barcio premiwm a’r ap.