Bydd yn debyg i olygfa agoriadol o ffilm James Bond yr haf hwn pan fydd plymwyr awyr yn hedfan tuag at Fae Abertawe o filoedd o droedfeddi uwchben..
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau fod tîm arddangos parasiwt arbenigol y Tigers wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o berfformwyr yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Mae’r tîm, a ffurfiwyd ym 1986, wedi perfformio ym mhedwar ban byd, mewn lleoliadau fel Berlin, Kosovo, Cyprus a Denmarc.
Mae parasiwtiau Jac yr Undeb wedi ymddangos yn eu harddangosiadau yn y gorffennol, yn debyg i’r olygfa agoriadol eiconig yn y ffilm The Spy Who Loved Me, gyda Roger Moore yn chwarae rhan 007.