Bydd noson unigryw, llawn cerddoriaeth, gweithgarwch a chyffro yn trawsnewid yr awyr uwchben Abertawe’r mis Gorffennaf hwn.
Am y tro cyntaf erioed, bydd balwnau aer poeth a thimau erobatig sy’n hedfan gyda’r hwyr yn perfformio uwchben Abertawe fel rhan o benwythnos Sioe Awyr Cymru.
Trefnir y digwyddiad arbennig, a gynhelir o 8.30pm ar 6 Gorffennaf ac a fydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth o 1969, i helpu i ddathlu pen-blwydd y ddinas yn 50 oed a disgwylir i’r sioe fod yn gyffrous iawn.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, fod Sioe Awyr Cymru eisoes yn un o brif ddigwyddiadau am ddim y DU ond eleni roeddem am wneud rhywbeth ychwanegol i nodi pen-blwydd y ddinas yn 50 oed.
Meddai, “Prif ddiben Sioe Awyr Cymru yw bod yn drawiadol ac rydym yn gwybod bod y torfeydd enfawr y mae’n eu denu wir yn gwerthfawrogi’r arddangosiadau awyr a’r digwyddiadau ar y ddaear sef prif ran y digwyddiad.
“Rydym ymhlith cefnogwyr mwyaf ymroddedig y Red Arrows a dyna’r rheswm pam gwnaethant yn siŵr ein bod ni ar eu rhaglen ar gyfer yr haf dros ddeuddydd y digwyddiad.
“Ond mae’r digwyddiad ‘gyda’r hwyr’ yn addo ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i ymwelwyr ei fwynhau gyda’r hwyr. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld balwnau aer poeth gyda’r hwyr yn gwybod pa mor anhygoel yw eu gweld.
“Caiff y balwnau aer poeth eu gosod a’u clymu ar hyd traeth Abertawe a bydd tîm arddangos Fireflies hefyd yn perfformio – dwy awyren arddangos yw’r rhain sydd â thân gwyllt yn saethu oddi ar eu hadenydd – gan gyflwyno sioe stỳnt gyda’r hwyr.
“Trefnir hefyd i dîm arddangos parasiwt y Tigers berfformio naid gyda’r hwyr, dyma un o’n perfformwyr cyson yn Sioe Awyr Cymru.”
Ar y ddaear, bydd cerddoriaeth fyw a fydd yn peri i bobl hiraethu am y 60au hwyr, gan ddathlu rhai o’r caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau yn y flwyddyn pan ddynodwyd Abertawe’n ddinas am y tro cyntaf.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Abertawe 50 yn ddathliad o orffennol, presennol a dyfodol ein dinas a chynhelir Sioe Awyr Cymru lai nag wythnos ar ôl dyddiad swyddogol yr hanner canmlwyddiant, sef 3 Gorffennaf.
“Mae Sioe Awyr Cymru wedi dod yn rhan o hanes a threftadaeth fodern ein dinas, gan ddenu tua 250,000 o ymwelwyr i’r traeth yn ystod deuddydd y digwyddiad. Roeddem am wneud rhywbeth arbennig ar gyfer yr hanner canmlwyddiant a dyna beth yw pwrpas y rhan ‘gyda’r hwyr’ o’r Sioe Awyr.”
Dyma un yn unig o lawer o ddigwyddiadau a gynlluniwyd drwy gydol y flwyddyn i nodi hanner canmlwyddiant Abertawe. Rydym yn gofyn hefyd i breswylwyr a busnesau gymryd rhan drwy feddwl am eu digwyddiadau a’u syniadau eu hunain i ddathlu’r garreg filltir unigryw. I gael gwybodaeth am sut gallwch fod yn rhan o Abertawe 50, ewch i www.swansea50.co.uk/?lang=cy