Roedd Sioe Awyr Cymru Abertawe’n benwythnos gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau sioe am ddim fwyaf y wlad.
Roedd ymwelwyr o bob rhan o’r DU wrth eu boddau gyda’r dau ddiwrnod o hedfan yn cynnwys The Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a nifer o arddangosiadau eraill.
Mwynhaodd torfeydd enfawr amrywiaeth eang o arddangosiadau a gweithgareddau ar y ddaear yn ogystal ag yn yr awyr.
Trefnwyd y digwyddiad gan y cyngor.
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, “Roedd yn benwythnos arbennig yn Abertawe. Wrth i enw da ein dinas dyfu fel lleoliad o safon ar gyfer digwyddiadau mawr, roedd y Sioe Awyr flynyddol yn llwyddiant enfawr.
“Roedd y sioe hefyd yn gallu cynnal y rhan leol o Daith Gyfnewid Baton y Frenhines, gan ddathlu Gemau’r Gymanwlad sydd ar ddod yn Birmingham.”
Mae gan Abertawe amrywiaeth eang o ddigwyddiadau o safon a fydd yn cael eu cynnal eleni. Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com