Bydd tair awyren eiconig o’r Ail Ryfel Byd yn dod â hanes yn fyw yr haf hwn yn Sioe Awyr Cymru.
Fel rhan o’r dathliadau sy’n nodi hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yn arddangos tair o lond llaw o awyrennau sy’n parhau i gael eu hedfan mwy na 70 o flynyddoedd ers y rhyfel.
Bydd y Supermarine Spitfire, yr Hawker Hurricane a’r Avro Lancaster yn gadael eu marc ar Sioe Awyr Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf o flaen torfeydd enfawr.
Mae’r digwyddiad am ddim a gynhelir gan Gyngor Abertawe eisoes wedi cyhoeddi y bydd Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol yn rhan o’r rhestr o ddigwyddiadau.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Gellir dadlau mai Hediad Coffa Brwydr Prydain yw’r arddangosfa fwyaf hanesyddol ac atgofus yn hanes Prydain.
“Mae gweld yr awyrennau hyn yn cael eu hedfan yn ffordd o ddod â hanes yn fyw ac wrth ddathlu 50 mlynedd ers ein hurddo fel dinas, rydym yn falch o’u croesawu yma yn Abertawe.”
Meddai David Bailey, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid cwmni rheilffordd GWR, partner rheilffordd swyddogol Sioe Awyr Cymru, “Bydd Rheilffordd y Great Western yn helpu i ddenu mwy o bobl nag erioed i Abertawe eleni gyda’n trenau Intercity Express yn darparu bron chwarter yn fwy o gadeiriau ar bob gwasanaeth na’r trenau a ddisodlwyd ganddynt.
“Mae GWR yn falch o noddi Hediad Coffa Brwydr Prydain yn Sioe Awyr Cymru eleni.”