Darparodd Sioe Awyr Cymru 2017 benwythnos anhygoel arall o acrobateg awyrol gan dorri record arall!
Daeth y torfeydd mwyaf erioed hyd yn hyn i Abertawe dros benwythnos 1 a 2 Gorffennaf 2017 ar gyfer Sioe Awyr Cymru lle cafwyd penwythnos gwych i’r teulu. Er gwaethaf y glaw ar y dydd Gwener, daeth y tywydd braf mewn pryd ar gyfer y penwythnos gyda’r haul yn gwenu ar y dydd Sadwrn. Gyda’r Sioe Awyr yn fwyfwy poblogaidd bob blwyddyn, daeth torfeydd mawr i Fae Abertawe i baratoi am y diwrnod o’u blaenau a mwynhau’r arddangosfeydd gwych ar y ddaear neu’r haul ar y traeth.
Bu Tîm Raven, perfformwyr awyr beiddgar o Abertawe, yn cychwyn y cyffro ar y dydd Sadwrn gan syfrdanu’r torfeydd a’u paratoi ar gyfer y penwythnos gwych o’u blaenau. Roedd y diwrnod yn llawn cyffro, a gwelwyd arddangosiadau hen a newydd gan gynnwys Autogyro, Pitts Special, y Bristol Blenheim, Awyren Tutor yr RAF, Strikemaster a mwy. Roedd amser hyd yn oed i Dîm Arddangos Cwymp Rhydd y Tigers alw heibio, i Typhoon yr RAF greu sŵn ac i Hediad Coffa Brwydr Prydain arddangos y Spitfire a’r Hurricane eiconig. Ac wrth gwrs, pwy allai anghofio Red Arrows yr RAF?
Roedd y tywydd yn well byth ar y dydd Sul, a chyda rhestr o berfformwyr a oedd yn cynnwys y Chinook, bu’r torfeydd yn mwynhau diwrnod gwell yn y Sioe Awyr na’r diwrnod cynt! Gyda llai o gymylau, roedd y Red Arrows yn gallu perfformio’r arddangosfa uchel yn y cymylau i’w potensial llawn, gan greu golygfeydd anhygoel dros Fae Abertawe a rhai cyfleoedd gwych i dynnu lluniau.
Erbyn y diwedd roedd torfeydd enfawr wedi mwynhau’r arddangosfeydd, gyda 250,000 o bobl yn gwylio Sioe Awyr Cymru 2017. Diolch i bawb a ddaeth i wylio a llongyfarchiadau i chi i gyd – rydych chi wedi torri record!
Byddwn yn dychwelyd yn 2018 gyda phenwythnos arall a fydd yn llawn cyffro yn yr awyr uwchben Bae Abertawe, gan obeithio torri record unwaith eto! Tan hynny, gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf am Sioe Awyr Cymru drwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio.
Welwn ni chi yn 2018!