Disgwylir i Eurofighter Typhoon yr RAF ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru Abertawe yr haf hwn – am y tro cyntaf ers 2019
Y llynedd, roedd y gynulleidfa wedi gweld eisiau’r jet, sy’n gallu hedfan bron ddwywaith cyflymder sain, felly mae Cyngor Abertawe wedi gwneud popeth posib i ddod â’r Typhoon yn ôl eleni.
Dyma’r ail berfformiwr enwog i’w gadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn a gynhelir dros Fae Abertawe ar 1 a 2 Gorffennaf. Mae’r sioe flynyddol am ddim yn cael ei threfnu unwaith eto can y cyngor.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod disgwyl i’r Red Arrows ymweld ar y ddau ddiwrnod – yn ogystal â Thîm Arddangos y Typhoon.
Bydd hefyd lawer o berfformwyr eraill i’w gweld yn yr awyr a bydd amrywiaeth eang o hwyl i’r teulu ar y ddaear.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Mae’r Typhoon yn denu llawer o bobl ac rydym yn gyffrous iawn ei fod yn dychwelyd i hedfan dros Abertawe eto.
“Mae’r Sioe Awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i’n heconomi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr am eu hamynedd gyda’r trefniadau cau ffyrdd angenrheidiol – ac i’r holl fasnachwyr a’n noddwyr.”