Ddydd Mercher byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy’r ap am ba dimau arddangos fydd yn Abertawe ar bob diwrnod o #SAGC16. Gallwch brynu’r ap ar ffonau IOS, Android a Windows.
Bydd amserlen arddangosiadau awyr Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni ar gael drwy’r ap Sioe Awyr newydd! Dyma’r UNIG le i gael mynediad i’r amserau arddangos pan gânt eu rhyddhau ar 30 Mehefin.
5 Rheswm Allweddol dros lawrlwytho’r ap
2. ARBED ARIAN GYDAG AMRYWIAETH O DALEBAU GOSTYNGIADAU – Gallwch gael llawer o dalebau gostyngiadau gwych i’w defnyddio mewn nifer o fusnesau de Cymru o 1 Mai tan 31 Gorffennaf. (e.e. Nandos Abertawe, Gwesty’r Dragon, Marriott Abertawe, Tenis a Sboncen Abertawe ymysg eraill)

3. BYDDWCH YN DERBYN Y NEWYDDION DIWEDDARAF – Y newyddion diweddaraf am y Sioe Awyr ar yr ap hwn yn unig drwy hysbysiadau uniongyrchol. Byddwn yn rhyddhau peth gwybodaeth allweddol am y Red Arrows a’r Typhoon yn ystod y cyfnod cyn rhyddhau’r amserlen lawn.
4. GWYBODAETH DDEFNYDDIOL AM Y TIMAU – Arweiniad defnyddiol am yr holl dimau arddangos i’w gadw yn eich poced.
5. BYDDWCH YN HELPU I GEFNOGI SIOE AWYR GENEDLAETHOL CYMRU – Trwy brynu’r ap am ffi fechan byddwch yn helpu i gynnal y digwyddiad gwych hwn ym Mae Abertawe yn flynyddol.