Amodau a thelerau;
- Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i lynu wrth yr amodau a’r telerau hyn.
- Mae’n rhaid i bob cais gael ei gyflwyno drwy dudalen Facebook Joio Bae Abertawe drwy wneud sylw ar y post perthnasol.
- Nid oes unrhyw ffi gystadlu/nid oes rhaid prynu dim er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Mae’n rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i gystadlu.
- Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno fesul person ar gyfer y gystadleuaeth hon. Bydd y rheiny sy’n cyflwyno mwy nag un cais yn cael eu gwahardd.
- Nid oes hawl i weithwyr Adran Diwylliant, Twristiaeth, Chwaraeon a Hamdden Dinas a Sir Abertawe na’u teuluoedd agos neu unrhyw un o bartneriaid y gystadleuaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yw hanner dydd (12pm) ddydd Gwener 25 Mehefin 2020.
- Cyhoeddir yr enillydd ddydd Gwener 25 Mehefin am 2pm ar dudalen Facebook Sioe Awyr Cymry.
- Bydd yr enillydd yn derbyn basged sy’n llawn danteithion gan fasnachwyr amrywiol yn nigwyddiad Croeso Abertawe.
- Ni roddir arian na gwobr amgen yn lle’r wobr hon.
- Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o’r holl geisiadau a dderbynnir.
- Caiff yr enillydd ei ddewis gan Ddinas a Sir Abertawe. Mae penderfyniad Dinas a Sir Abertawe yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ei gylch.
- Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i gyhoeddi enw’r enillydd.
- Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rydych yn cytuno i ni ddefnyddio’ch enw cyntaf mewn gweithgarwch marchnata yn y dyfodol, bydd yr enillydd yn caniatáu i ffotograffau gael eu tynnu a’u defnyddio at ddibenion cyhoeddusrwydd.
- Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn cyn y defnyddir yr wybodaeth hon.
- Drwy gytuno i’r amodau a’r telerau hyn, rydych hefyd yn cytuno i’n Polisi Preifatrwydd.
NB: Nid yw’r hyrwyddiad hwn yn gysylltiedig â Facebook ac ni chaiff ei noddi, ei gymeradwyo neu ei weinyddu ganddo mewn unrhyw ffordd. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion i Joio Bae Abertawe.