Bydd hofrennydd anhygoel Chinook, sef ceffyl gwaith y lluoedd awyr a’r llyngesau ar draws y byd, yn ymddangos ar ddau ddiwrnod y digwyddiad sydd am ddim ar Orffennaf 6 a 7.
Gydag uchafswm cyflymder o 160 notiau a chyfanswm uchder o 15,000 troedfedd, gall Chinook 30 metr o hyd gael ei weithredu yn yr Arctig, y jyngl neu’r anialwch. Gellir rheoli’r awyren o’r lle peilot mewn tywyllwch llwyr yn ystod y nos drwy ddefnyddio gogls golwg nos, gan ganiatáu gweithrediadau gyda’r nos mewn amgylcheddau gelyniaethus.
Mae’r Chinook wedi bod yn gwasanaethu mewn gweithrediadau milwrol a dyngarol gyda’r RAF ers y 1980au. Bu’n gweithredu yn Rhyfel y Falklands, yn Kosovo ac mewn dau Ryfel y Gwlff a gall gludo hyd at 55 o filwyr yn eu holl offer.