Bydd unig gwmni awyrennau erobatig y byd yn gwefreiddio degau ar filoedd o bobl yn Abertawe eleni.
Bydd unig gwmni awyrennau erobatig y byd yn gwefreiddio degau ar filoedd o bobl yn Abertawe eleni.
Disgwylir i Dîm Erobatig The Blades ymddangos uwchben y ddinas yn Sioe Awyr Cymru, a gynhelir ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.
Bydd Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o arddangosiadau awyr eraill gan gynnwys y Red Arrows, sy’n hynod boblogaidd. Eleni, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Abertawe’n 50 oed, cynhelir digwyddiad gyda’r hwyr nos Sadwrn o 8.30pm.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae The Blades yn atyniad prin – mae ganddo ganiatâd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil i gludo teithwyr sy’n talu mewn ehediad clós.
“Mae’r cwmni’n cyflwyno arddangosiadau deinamig ar draws Ewrop ac rwy’n siŵr y bydd ei arddangosiad dros Fae Abertawe’n brofiad bythgofiadwy.
Bydd cyn-beilot Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol, Mike Ling (Lingy), wrth y llyw yn nhîm The Blades, sydd wedi’i leoli yn Swydd Northampton, am y tro cyntaf erioed. Mae Mike Ling, peilot hwyaf ei wasanaeth yn Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol, wedi cyfranogi yn Sioe Awyr Cymru ers sawl blwyddyn gyda’r Red Arrows ond eleni fydd y flwyddyn gyntaf yn y Sioe Awyr iddo berfformio fel rhan o dîm arddangos The Blades yn lle hynny.
Dywedodd Mike Ling, “Rwy’n hynod gyffrous i ddychwelyd i Abertawe ar gyfer Sioe Awyr Cymru ym mis Gorffennaf. Ben Murphy (Arweinydd The Blades) a finnau oedd Pâr Cydamserol y Red Arrows yn y digwyddiad agoriadol yn 2009 a mwynheais ddychwelyd i gwrdd â’r torfeydd enfawr ym Mae Abertawe fel sylwebydd y Red Arrows yn 2015, 2016 a 2017. Roedd hefyd yn wych i arddangos fel Red 3 gyda’r Red Arrows yn 2018 ond nawr gallaf arddangos fel Blade 3 yn 2019, gan gyfnewid fy awyren Hawk am fy Extra 300 i berfformio rhai arddangosiadau erobatig trawiadol fel aelod o unig gwmni awyrennau erobatig y byd.
“Mae amffitheatr naturiol y bae a’r traeth llawn gwylwyr yn gwneud Abertawe’n un o’r lleoliadau arddangos gorau y gallem ofyn amdano.”
Mae The Blades bellach yn ei 14eg tymor arddangos ac mae’r tîm yn perfformio’i arddangosiadau, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ar gyfer pedair miliwn o wylwyr bob blwyddyn.
Yn enwog am ei sgiliau hedfan erobatig mewn ehediad clós, bydd The Blades yn dathlu carreg filltir hedfan eleni – 1,000 o arddangosiadau wedi’u gwneud.
Mae’n ymddangos perfformiad a gallu’r Extra 300, sydd ag un llafn gwthio, fel awyren campau erobatig.
Gan berfformio symudiadau erobatig lai na 4 metr oddi wrth ei gilydd a hedfan heibio i’w gilydd am oddeutu 350mya, mae’r tîm yn perfformio arddangosiadau cydamserol cyflym ynghyd â symudiadau erobatig geirosgopig eithafol.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Yn y flwyddyn pan fydd Abertawe’n dathlu ei hanner canmlwyddiant fel dinas, rydym am sicrhau y bydd y sioe awyr yn barhau i wireddu’i henw fel un o’n digwyddiadau blaenllaw.
“Mae’r digwyddiad yn tyfu’n fwy poblogaidd bob blwyddyn. Ynghyd ag arddangosiadau yn yr awyr, mae’r digwyddiad yn cynnwys adloniant a gweithgareddau ar y ddaear.”
“Mae Sioe Awyr Cymru’n un o brif ddigwyddiadau am ddim y DU a’i phrif ddiben yw bod yn drawiadol. Cadwch lygad ar y dudalen Facebook a’r wefan wrth i ragor o arddangosiadau gael eu cadarnhau dros yr wythnosau i ddod.”
Caiff ap Sioe Awyr Cymru, sydd ar gael yn yr Appstore a chan Google Play, ei ddiweddaru gyda gwybodaeth am yr holl arddangosiadau wrth iddynt gael eu cadarnhau dros yr wythnosau i ddod.