Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr CymruYn agor mewn ffenest newydd, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf a dydd Sul 7 Gorffennaf.
Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon, a fydd yn hefan o orsaf Coningsby yr RAF yn Swydd Lincoln, yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 o droedfeddi.
Bydd Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys atyniadau megis y Red Arrows a bydd miloedd o bobl yn dod i wylio ar draeth Abertawe am ddeuddydd o arddangosiadau hedfan arbennig. Hefyd, am y tro cyntaf, bydd digwyddiad gyda’r hwyr ar y nos Sadwrn eleni a gynhelir o 8.30pm.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Abertawe’n dathlu 50 mlynedd fel dinasYn agor mewn ffenest newydd a’r sioe awyr yn cynnwys tîm arddangos Typhoon yn yr un flwyddyn; fel erioed, bydd yn olygfa arbennig.”
Mae’r Typhoon werth tua £80m ac mae’n un o awyrennau ymladd mwyaf datblygedig y byd.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Sioe Awyr Cymru’n ddigwyddiad arbennig; mae’r cynulleidfaoedd mawr sy’n cael eu denu’n gwerthfawrogi’r arddangosiadau awyr a’r digwyddiadau ar y tir sy’n rhan o’r prif ddigwyddiad.”
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd ap Sioe Awyr Cymru, sydd ar gael ar yr Appstore ac ar Google Play yn cael ei ddiweddaru gyda gwybodaeth am yr holl arddangosiadau wrth iddynt gael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf.