Bydd noson unigryw, llawn cerddoriaeth, gweithgarwch a chyffro yn trawsnewid yr awyr uwchben Abertawe’r mis Gorffennaf hwn.
Am y tro cyntaf erioed, bydd balwnau aer poeth a thimau erobatig sy’n hedfan gyda’r hwyr yn perfformio uwchben Abertawe fel rhan o benwythnos Sioe Awyr Cymru.
Cymerwch gip yn ôl ar y Sioe Awyr Gyda’r Hwyr, sef rhan o ddathliadau Abertawe 50 yn 2019.
Tîm Arddangos Erobatig Fireflies
Hedfanodd y Tîm Arddangos Erobatig Fireflies yn yr awyr ar gyfer ei arddangosiad gyda’r hwyr.
Parasiwtiodd Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers ar draws y bae.
Clymwyd wyth balŵn aer poeth ar hyd traeth Bae Abertawe gan greu golygfa drawiadol, ac roeddent yn goleuo ac yn tanio i guriad y gerddoriaeth. Mwynhaodd cannoedd ar filoedd o bobl noson o haf yn gwylio’r sioe.
Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers
Cadwch lygad ar yr awyr wrth i Dîm Arddangos Parasiwt y Tigers barasiwtio dros y bae – byddant yn hawdd eu gweld, gyda ffaglau a phyrodechnegau y tu ôl iddynt!
Balwnau Aer Poeth
Am y tro cyntaf daeth balwnau aer poeth a thimau erobatig sy’n hedfan gyda’r hwyr i’r parti yn Abertawe fel rhan o benwythnos Sioe Awyr Cymru. Mwynhewch noson o haf yn gwylio’r sioe a’r arddangosfa drawiadol, a cherddwch ar hyd y traeth yn archwilio’r balwnau sydd mewn siâp anifeiliaid a dyluniadau lliwgar.
Arddangosfa Tân Gwyllt
I orffen adloniant y noson, ymlaciwch a mwynhewch yr arddangosfa tân gwyllt o’r Bae!