Nid arddangosiadau acrobatig trawiadol yn yr awyr yn unig sy’n cael eu cynnig yn ystod Sioe Awyr Cymru, mae llawer o bethau difyr i deuluoedd ar y ddaear hefyd!
Mae llawer i’w weld ac i’w wneud, gan gynnwys efelychwyr hedfan, ffeiriau, atgynhyrchiadau o awyrennau ar y ddaear, cerbydau ac arddangosiadau’r lluoedd arfog a llawer mwy. Cofiwch, bydd digon o fwyd a diod ar gynnig hefyd!
Bydd yr arddangosiadau ar y ddaear ar agor o 10am i 6pm ar y ddeuddydd, gallwch gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi’r traffig a mwynhau’r arddangosiadau cyn i’r cyffro go iawn ddechrau yn yr awyr.
Wrth i Sioe Awyr Cymru wella bob blwyddyn, mae’r arddangosiadau ar y ddaear yn gwneud yr un peth. Yn ogystal â’r ffaith y bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau a gweithgareddau gwych, bydd hyd yn oed mwy i’w weld a’i wneud ar Oystermouth Road hefyd. Bydd arddangosiadau ar y ddaear ar hyd y prom o’r Ganolfan Ddinesig i Brynmill Lane.
Lluniaeth
Bydd amrywiaeth o fwyd ar gael yn yr ardal arddangos ar y ddaear ger y Rec a’r Senotaff a hefyd ger y Ganolfan Ddinesig. Bydd te, coffi a diodydd meddal ar gael hefyd. Bydd yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael yn cynnwys tatws pob, cyri, byrgyrs, pysgod a sglodion, cig moch rhost a chrempogau, ynghyd â hufen iâ, toesenni, losin a chyffug.
Atgynhyrchiad o awyren hanesyddol
Dewch i weld atgynhyrchiad maint llawn o awyrennau Hurricane a Flea â lori Bedford MW 1941 i enwi ond rhai yn unig! Bydd cynrychiolwyr hyrwyddiadau hanesyddol wrth law i ddarparu sgyrsiau ac i roi ffeithiau a manylion am yr awyren wrth i chi archwilio rhai o’r awyrennau enwocaf yn hanes milwrol Prydain.
Gallwch hefyd ymweld â’r amgueddfa D-Day symudol! Mae’r amgueddfa yn rhoi teimlad go iawn o sut roedd bywyd yn ystod yr ail ryfel byd.
Gwasanaethau Arfog
Bydd llawer mwy o bethau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau arfog i’w gweld a’u gwneud gan gynnwys y canlynol:
- Band Tywysog Cymru
- Cerbydau ymladd mawr
- Offer chwyddadwy
- Ôl-gerbydau gwybodaeth
- Pentref Cyn-filwyr
- Pabell fawr y Cyfamod Abertawe gyda chynrychiolwyr o gyn-filwyr, elusennau a grwpiau cymorth.
- Gallwch chi hefyd fynd y tu mewn i atgynhyrchiad y Typhoon a’i archwilio!
Dewch i fod yn rhan o’r cyffro gydag efelychwyr a phrofiadau rhithrealiti
Ydych chi erioed wedi eisiau’r profiad o sefyll ar gludydd awyrennau pan fydd y jetiau’n codi? Neu, beth am eistedd yn sedd peilot un o Red Arrows yr RAF?
Archwiliwch yr arddangosiadau ar y ddaear yn ystod Sioe Awyr Cymru er mwyn dod o hyd i’r profiadau rhithrealiti a’r efelychwyr hedfan hyn, yn ogystal â llawer mwy!
Arddangosiadau Cŵn Heddlu’r
Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r prom yn ddigon, bydd gennych hefyd gyfle i gwrdd â llawer o’r timau arddangos ar y ddaear.
Cadetiaid Awyr, Y Fyddin a’r Môr
Bydd y Cadetiaid Awyr, Y Fyddin a’r Môr yn dychwelyd i Sioe Awyr Cymru gyda nifer o arddangosiadau rhyngweithiol sy’n arddangos y gweithgareddau difyr niferus maent yn eu gwneud fel cadetiaid y gwasanaethau milwrwol.
Cwrdd â’r Tîmau
Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r promenâd yn ddigon, bydd gennych y cyfle i gwrdd â Thîm Raven, The Blades, Tîm Parasiwt y Tigers a pheirianwyr y Red Arrows, Chinook a Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain
Ffair Hwyl a Difyrion
Bydd y reidiau ffair a difyrion yn y Ganolfan Ddinesig ac ar Oystermouth Road, gan gynnwys efelychydd y Red Arrows, reidiau ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar gyffro, reidiau i blant, weiren wib, gemau a difyrion trwy gydol benwythnos y Sioe Awyr, hwyl i’r holl deulu!
Gweithgareddau Difyr i’r Teulu
Mae Sioe Awyr Cymru yn denu teuluoedd o bob rhan o’r DU i Abertawe am ddiwrnod mas i’r teulu ac eleni rydym yn darparu rhywbeth ychydig yn wahanol ar safle’r Ganolfan Ddinesig.
Bydd y Parth Hwyl i Deuluoedd yn cynnwys gweithgareddau AM DDIM y gall pob oed gymryd rhan ynddynt yn ogystal â diddanwyr plant, gweithdai crefft, gemau rhyngweithiol, crefftau a gemau cynaliadwyedd, sesiwn rhoi cynnig ar gampau a llawer mwy!
Cadwch lygad am ymddangosiadau arbennig gan Cybil a Cyril o Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ogystal â chymeriadau o ffilmiau a rhaglenni teledu i blant a diddanwyr ar thema filwrol a fydd yn crwydro o gwmpas y lle.
Bydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn darparu pêl-droed top bwrdd, gêm cicio peli troed a chystadleuaeth bêl-droed. Bydd Freedom Leisure yn darparu gweithgareddau chwaraeon difyr i bob oed.
Gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft a ddarperir gan Dysgu Gydol Oes a dysgu mwy am wastraff a llygredd plastig gyda gweithgareddau celf a chrefft addysgol a difyr Waste and Waves.
Adloniant Llwyfan
Bydd digonedd o gerddoriaeth fyw yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn. Yn ogystal â Band Tywysog Cymru, triawd Bel Canto Vintage a’r Côr Roc (gyda gwesteion arbennig!), byddwn hefyd yn cynnal digonedd o berfformiadau cerddoriaeth fyw lleol, gwych drwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul.
Dros y penwythnos, cadwch lygad am Gerddorion Stryd y Bae a fydd yn perfformio ar hyd y prom, gan ategu rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, fel rhan o ymgyrch cerddorion stryd newydd. Byddwn hefyd yn cyflwyno prosiect ysgrifennu caneuon cydweithredol newydd a fydd yn cael ei lansio yn Sioe Awyr eleni fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru. Rydym yn gyffrous i fod yn cyflwyno llond llaw o gerddorion/ysgrifenwyr caneuon dawnus lleol sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog eisoes. (rydym wrthi’n rhoi amserlen at ei gilydd ar hyn o bryd)
Ardaloedd gwylio i’r anabl yn y Ganolfan Ddinesig a ger y Senotaff. Yn ogystal ag ardaloedd ‘tawel’ y tu mewn i’r Ganolfan Ddinesig ar lawr cyntaf y llyfrgell. Mwy ar Hygyrchedd.