Mae acrobatiaid awyrofod yn bwriadu cyflwyno perfformiad syfrdanol yn Sioe Awyr Cymru fis nesaf.
Bydd cerddwyr adenydd o Dîm Arddangos Aerosuperbatics yn serennu ar awyrennau stỳnt dwbl yn uchel uwchben Bae Abertawe fel rhan o ddigwyddiad mwyaf am ddim Cymru eleni.
Mae Sioe Awyr Cymru eisoes wedi cadarnhau y bydd y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain a thîm arddangos Typhoon yr Awyrlu Brenhinol yn dychwelyd eleni.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae cerdded ar adenydd yn olygfa feiddgar a bydd yn ychwanegu at gynnwrf y penwythnos gwych hwn ar gyfer y teulu cyfan.
“Mae tîm yr Aerosuperbatics yn enwog mewn arddangosfeydd ledled y byd o Tsiena i Awstralia a’r Dwyrain Canol, felly mae’n wych ei fod hefyd yn ymweld ag Abertawe eleni.”
Mae Sioe Awyr Cymru yn ddigwyddiad blaenllaw yng nghalendr digwyddiadau’r ddinas. Y llynedd denodd tua 250,000 o bobl bob cwr o dde Cymru a’r DU i’r ddinas.
Yn ogystal â’r adloniant o safon ryngwladol yn yr awyr, bydd hefyd digonedd o ddigwyddiadau ar y ddaear i ymwelwyr eu mwynhau.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Yn ogystal â chreu penwythnos llawn busnes i’n masnachwyr, mae Sioe Awyr Cymru’n helpu i gynyddu proffil Abertawe fel dinas sydd â digwyddiadau o safon uchel.”
Ynghyd â dychweliad y Red Arrows bydd perfformiadau cyntaf i awyren fôr Catalina a Thîm Rhyfel Mawr Bremont hefyd a fydd yn helpu i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a all godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.