Mae hofrennydd milwrol sy’n gallu cael ei weithredu o’r tir neu ar long yn rhai o amgylcheddau mwyaf eithriadol y byd wedi’i ychwanegu at y rhestr o atyniadau ar gyfer Sioe Awyr Cymru.
Bydd Chinook yr Awyrlu Brenhinol ymysg nifer yr awyrennau a fydd yn perfformio yn nigwyddiad am ddim Cyngor Abertawe a gynhelir yn yr awyr uwchben Abertawe ddydd Sadwrn 30 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf.
Gydag uchafswm cyflymder o 160 notiau a chyfanswm uchder o 15,000 troedfedd, gall Chinook 30 metr o hyd gael ei weithredu yn yr Arctig, y jyngl neu’r anialwch. Mae gan ei le peilot y gallu i gael ei ddefnyddio yn ystod y nos pan fydd yn cael ei weithredu gyda gogls golwg nos, gan ganiatáu gweithrediadau gyda’r nos mewn amgylcheddau gelyniaethus.
Mae’r Chinook wedi bod yn gwasanaethu mewn gweithrediadau milwrol a dyngarol gyda’r Awyrlu Brenhinol ers y 1980au. Bu’n gweithredu yn Rhyfel y Falklands, yn Kosovo ac mewn dau Ryfel y Gwlff a gall gludo hyd at 55 o filwyr yn eu holl offer.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gyda’r Sioe Awyr dim ond 7 wythnos i ffwrdd, mae’r cyffro wedi dechrau.
“Dyma un o’n prif ddigwyddiadau yn y calendr blynyddol o ddigwyddiadau a dyma’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yng Nghymru sy’n denu miloedd ar filoedd o wylwyr ledled de Cymru a thu hwnt, diolch i’r cyfuniad o arddangosiadau erobatig, awyrennau clasurol ac adloniant ar y tir.
“Yn ogystal â chreu penwythnos llawn busnes i’n masnachwyr, mae Sioe Awyr Cymru’n helpu i gynyddu proffil Abertawe fel dinas sydd â digwyddiadau o safon. Dyma un o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau niferus a gynhelir yr haf hwn fel rhan o’n rhaglen Joio Bae Abertawe.”
Mae’r Red Arrows, tim arddangos y Typhoon, y Catalina, Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain a Thîm Rhyfel Mawr Bremont wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, gyda mwy o awyrennau i’w cadarnhau dros yr wythnosau nesaf.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a all godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.