Bydd un o’r awyrennau môr enwocaf erioed yn dod i Sioe Awyr Cymru fis nesaf.
Bydd awyren fôr Catalina a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd yn dangos y rhesymau pam mai’r awyrennau hyn oedd y gweithwyr caled a oedd yn croesi’r moroedd, gan deithio pellterau helaeth mewn un hediad ac yn gallu glanio bron yn unrhyw le.
Bydd yr un sy’n ymweld â Sioe Awyr Cymru’n dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni. Bu’n gweithio ar ôl y rhyfel fel awyren ddŵr yn diffodd tanau coedwigoedd yng Nghanada cyn cael rôl newydd fel awyren arddangos.
Nid y Catalina oedd yr awyren gyflymaf i hedfan yn yr Ail Ryfel Byd gydag uchafswm cyflymder tua hanner yr hyn roedd y Spitfire yn gallu ei wneud, ond roedd hi’n gryf, yn ystwyth ac roedd ganddi amrediad o 2,500 o filltiroedd.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r Sioe Awyr yn gyfle gwych i bobl weld hanes yr awyren ar waith.
“Gwelodd yr awyren fôr Catalina sy’n dod i Abertawe lawer o’r ymladd yn ystod diwrnodau caletaf yr Ail Ryfel Byd fel heliwr tanfor, gan hedfan o orllewin Canada dros rannau helaeth o’r Môr Tawel yn chwilio am longau’r gelyn i’w targedu gan ein dinistrwyr ar y tir.”
Mae Sioe Awyr Cymru eleni dros ddeuddydd ar 30 Mehefin ac 1 Gorffennaf yn addo bod y gorau a’r mwyaf erioed a bydd yn cynnwys awyrennau o ddyddiau cynnar hedfan hyd at yr 21ain ganrif.
Gall y rhai sy’n dod i’r sioe ganfod mwy amdani drwy lawrlwytho ap Sioe Awyr Cymru ar Apple App Store a Google PLAY.