Mae’r tîm arddangos wedi’i gadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 30 Mehefin a dydd Sul 1 Gorffennaf.
Gan hedfan o RAF Coningsby yn Swydd Lincoln, mae’r Typhoon yn costio oddeutu £80m ac mae’n un o awyrennau ymladd mwyaf blaenllaw’r byd. Mae’n beiriant mor gymhleth, nid oes modd ei hedfan gan berson yn unig – mae angen cyfrifiadur wrth gefn ar yr awyren hefyd.
Yn ôl y ffigurau, roedd Sioe Awyr Cymru, a drefnir gan Gyngor Abertawe, werth £8.4m i’r economi leol, gan helpu i ddenu 250,000 o ymwelwyr i lan y môr a nifer o leoliadau eraill ar draws y ddinas.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’n bleser gennym gyhoeddi, gan mlynedd ers sefydlu’r RAF, y bydd Sioe Awyr Cymru’n arddangos rhai o’i asedau gorau, gan gynnwys tîm arddangos y Typhoon.
“Rydym yn falch eu bod wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn ystod yr haf, gan sicrhau ein bod ni’n cyflawni’n nod o greu digwyddiad sy’n parhau i fodloni disgwyliadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Wrth i’r cyngor barhau i weithio ar drefniadau’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni, gall preswylwyr ac ymwelwyr ddisgwyl mwy o berfformwyr yn cadarnhau eu lle dros yr wythnosau nesaf.
“Yn ogystal ag arddangosfeydd awyr, bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o’r digwyddiad, a gaiff ei gynnal yr haf hwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.”
Gydag uchafswm cyflymder o dros 1,300mya, mae’r Typhoon yn gallu cyrraedd uchder o 55,000 o droedfeddi, hyd at ymyl y gofod. Mae’r awyren oddeutu 16 metr o hyd ac mae lled ei hadenydd yn mesur dros 11 metr.
Lawrlwythwch yr AP swyddogol!
Os prynoch chi’r ap yn 2017, newyddion da.. byddwch yn cael ap eleni fel diweddariad AM DDIM!Bydd yr ap yn costio £1.99 i’r rhai sydd heb ei ddefnyddio o’r blaen, a chydag amserau’r arddangosiadau ar flaen eich bysedd, rydym yn teimlo ei fod yn cynnig gwerth gwych am arian a hefyd yn helpu i godi arian tuag at un o ddigwyddiadau AM DDIM gorau a mwyaf Cymru.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim a bydd yn cael ei diweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill. Rhaglen rithiwr ar flaenau eich bysedd!