Caiff mesurau diogelwch a diogeledd newydd, ychwanegol eu rhoi ar waith wrth i ni ddisgwyl croesawu’r dorf fwyaf erioed i’r Sioe Awyr yn Abertawe ddydd Sadwrn a dydd Sul 1 a 2 Gorffennaf.
Golyga hyn y bydd mwy o ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer y digwyddiad.
Bydd Heol Ystumllwynarth o’i chyffordd â Ffordd y Gorllewin i Heol y Mwmbwls ar y gyffordd â Lôn Sgeti ar gau i’r ddau gyfeiriad o oddeutu 10am tan ar ôl yr arddangosiadau olaf am oddeutu 6pm ar y ddau ddiwrnod.
Bydd mynediad i breswylwyr y Marina, a bydd trefniadau hefyd ar gael i bobl allu cyrraedd Canolfan Ddinesig Abertawe, Campws Singleton Prifysgol Abertawe a maes parcio premiwm y Rec y mae angen cadw lle ymlaen llaw iddo.
Mae Cyngor Abertawe yn hysbysu busnesau, cwmnïau bysys, preswylwyr sy’n byw gerllaw ac eraill am y newidiadau.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Penwythnos y Sioe Awyr yw un o’r penwythnosau mwyaf prysur i bobl sy’n dod i Abertawe. Dyw hynny ddim yn syndod oherwydd dyma’r sioe fwyaf am ddim yng Nghymru.
“Does gennym ddim opsiwn ond cau rhan o’r ffordd ar hyd y blaentraeth ger y brif ardal i wylwyr ar ôl derbyn cyngor gan yr Heddlu a’r gwasanaethau diogelwch i wneud hynny o ganlyniad i raddfa’r digwyddiad.
“Rydym yn ymwybodol y gall hyn achosi peth anghyfleustra ond diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth.
“Y llynedd, daeth oddeutu 200,000 o bobl i fwynhau’r digwyddiad dros y ddau ddiwrnod ac rydym yn disgwyl hyd yn oed mwy o bobl eleni. Mae angen i ni roi trefniadau ar waith sy’n adlewyrchu hyn.
“Bydd cyfleusterau parcio a theithio a meysydd parcio dynodedig i wylwyr, a bydd ymwelwyr eraill â’r ddinas a’r rheiny sy’n byw ac yn gweithio yma yn gallu teithio o gwmpas.
“Rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n dod i Abertawe i gynllunio ei daith a gadael ychydig yn gynharach i wneud y daith yn haws.
“Bydd y trefniadau hyn yn helpu i sicrhau bod gwylwyr yn ddiogel yn un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru ac yn cadw gweddill y ddinas i symud ac yn agored i fusnes. Mae’n hanfodol sicrhau bod y Sioe Awyr yn llwyddiant mawr sydd o fudd i’r economi leol.”
Bydd cynllun rheoli traffig manwl gydag arwyddion dargyfeiriadau ar waith i sicrhau y gellid lleihau unrhyw darfu ar draffig cymaint â phosib.
Anogir ymwelwyr sy’n teithio mewn car i ddefnyddio meysydd parcio swyddogol.
Bydd pobl sy’n teithio o’r tu allan i Abertawe ar gyfer y Sioe Awyr yn cael eu cyfeirio i adael yr M4 wrth gyffordd 42 a defnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio ar Ffordd Fabian, a Chyffordd 45 ar gyfer parcio a theithio Glandŵr. Addaswyd y llwybrau parcio a theithio i ollwng ymwelwyr yn uniongyrchol wrth y sioe.
Caiff ymwelwyr sy’n mynd i benrhyn Gŵyr ac nid i’r Sioe Awyr eu cyfeirio i gyffordd 47 Penllegaer.
Anogir preswylwyr Abertawe sy’n teithio i’r Sioe Awyr mewn car o orllewin Abertawe i ddefnyddio’r maes parcio swyddogol yng nghaeau chwarae Heol Ashleigh.
Mae’r rheiny o ddwyrain Abertawe’n cael eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio’r LC, Dewi Sant a Stryd Paxton a’r safleoedd parcio a theithio.
Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, “Dyma’r rhestr o dimau arddangos ac atyniadau gorau erioed, sef y Red Arrows, yr Eurofighter Typhon, Hediad Coffa Brwydr Prydain, Tîm Arddangos Parasiwt y Tigers a llawer mwy. Ein cyngor i bobl sy’n dod i fwynhau’r sioe drawiadol hon yw gadewch ddiogon o amser ar gyfer y daith a dewch yn gynnar.
“Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i gadw traffig i lifo ar draws Abertawe i’r rheiny sy’n ymweld â chanol y ddinas, y Mwmbwls a chyrchfannau poblogaidd eraill ond eto, rydym yn argymell y dylai pobl gynllunio ymlaen llaw a gadael digon o amser i gwblhau’r daith.”