Mae perfformwyr lleol beiddgar wedi ymuno â pherfformwyr Sioe Awyr Cymru eleni yn Abertawe.
Bydd Team Raven, tîm arddangos erobatig patrymog o ardal Abertawe’n perfformio yn y digwyddiad am ddim ar ddydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am Sioe Awyr Cymru, a Phrifysgol Abertawe yw prif noddwr y digwyddiad. Mae’r brifysgol hefyd yn noddi arddangosiad Tîm Raven.
Yn cynnwys Simon Shirley, Steve Lloyd, Barry Gwynnett, Gerald Williams, Ian Brett a Mark Southern fel aelodau, mae Tîm Raven yn hedfan mewn awyren RV.
Yn ogystal â pherfformio ledled y DU, mae Tîm Raven hefyd wedi perfformio yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’n bleser gennym gadarnhau unwaith eto y bydd Tîm Raven yn cymryd rhan yn Sioe Awyr am ddim Cymru’r haf hwn. Mae ei gyfranogiad yn dangos pa mor awyddus ydym i ddathlu ac arddangos doniau erobatig lleol, yn ogystal ag awyrennau ac arddangosfeydd o bedwar ban byd.
“Mae’r Sioe Awyr ychydig dros bythefnos i ffwrdd, felly mae pobl yn dechrau cyffroi wrth i’r digwyddiad am ddim gorau o’i fath yng Nghymru agosáu.
“Gan gyfuno adloniant o safon i’r teulu cyfan yn yr awyr ac ar y ddaear yn ardal promenâd Abertawe, mae’r Sioe Awyr yn newyddion gwych i bobl leol, busnesau lleol ac ymwelwyr â’r ddinas.”
Mae awyrennau eraill sy’n cymryd rhan yn y Sioe Awyr yn cynnwys y Red Arrows, tîm arddangos Typhoon, y Bristol Blenheim, Hediad Coffa Brwydr Prydain, tîm arddangos Chinook, tîm arddangos parasiwt y Tigers a’r Gyro Air Displays.
Caiff amserlen ddynamig o amserau arddangos ei hychwanegu at ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap, sydd bellach ar gael, yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Mae manylion parcio premiwm a pharcio a theithio ar gyfer Sioe Awyr Cymru bellach ar gael hefyd.