Caiff golygfeydd beiddgar o ffilmiau James Bond eu harddangos yn yr awyr uwchben Abertawe’r haf hwn.
Mae tîm arddangos parasiwt y Tigers ac Autogyro hefyd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr berfformio ar gyfer Sioe Awyr am ddim Cymru, a gynhelir ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Mae tîm arddangos parasiwt y Tigers, a ffurfiwyd ym 1986, wedi perfformio ym mhedwar ban byd, gan gynnwys Berlin, Kosovo a Cyprus.
Mae parasiwtiau Jac yr Undeb wedi ymddangos yn rhai o’u harddangosiadau yn y gorffennol, yn debyg i olygfa agoriadol eiconig yn ffilm James Bond o 1977, ‘The Spy Who Loved Me’, gyda Roger Moore yn chwarae rhan 007.
Mae styntiau parasiwt hefyd wedi ymddangos mewn sawl ffilm James Bond arall, gan gynnwys Moonraker, A View To a Kill a The Living Daylights.
Bu’r Autogyro, awyren gyda llafnau sy’n cylchdroi’n rhydd a llafn gwthio, yn ymddangos yn y ffilm James Bond o 1967, ‘You Only Live Twice’, gyda Sean Connery.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y Sioe Awyr, a Phrifysgol Abertawe yw prif noddwr y digwyddiad eleni.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol y Cyngor ar gyfer, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae Sioe Awyr Cymru’r haf hwn yn dechrau datblygu, gyda thîm arddangos parasiwt y Tigers a’r Autogyro yn ychwanegu at raglen wych sydd eisoes yn cynnwys y Red Arrows, tîm arddangos Typhoon, y Sea Vixen a Hediad Coffa Brwydr Prydain.
“Bydd awyrennau o sawl cyfnod gwahanol yn y Sioe Awyr, gan gynnwys hen awyrennau ar gyfer y rheiny sydd am hel atgofion, a digon i blesio’r preswylwyr a’r ymwelwyr sy’n awyddus i weld technoleg gwbl gyfoes yn yr awyr uwchben Abertawe.
“Yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae’r digwyddiad hwn bellach yn rhan allweddol o raglen digwyddiadau a gweithgareddau flynyddol Joio Bae Abertawe. Mae’n boblogaidd iawn gyda phobl leol a’r rheiny ledled y DU a thu hwnt sy’n dwlu ar y Sioe Awyr. Rydym yn hyderus y bydd yn helpu i greu penwythnos masnach gwych i’n busnesau.
“Caiff mwy o berfformwyr eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf wrth i ni gwblhau’r manylion ar gyfer y digwyddiad am ddim gorau o’i fath yn y wlad.”
Caiff amserlen ddeinamig o amserau arddangos ei hychwanegu at Ap Sioe Awyr Cymru ychydig ddiwrnodau cyn y digwyddiad am ddim.
Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Mae’r Ap, sydd wedi’i noddi gan Westy Bae Oxwich ac sy’n cynnwys talebau gostyngiadau, ar gael i’w lawrlwytho nawr am £1.99 o’r App Store a Google Play.
Bydd diweddariadau am ddim i bobl a brynodd yr ap ar gyfer sioe awyr y llynedd.
Mae’r ap hefyd yn cynnwys gwybodaeth am leoedd i aros, pethau i’w gwneud a lleoedd i fwyta ac yfed, yn ogystal â dolenni iddynt. Mae nodweddion eraill yn cynnwys bywgraffiadau’r timau arddangos.