Mae ap swyddogol Sioe Awyr Cymru bellach ar gael i’w lawrlwytho.
Bydd trefn yr arddangosiadau yn y sioe awyr yn cael ei lanlwytho i’r ap rai dyddiau cyn y digwyddiad am ddim a gynhelir yn Abertawe ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf.
Bydd yr ap hefyd yn cael ei ddiweddaru mewn amser go iawn i adlewyrchu newidiadau yn amserlen y digwyddiad a allai godi oherwydd y tywydd a ffactorau eraill.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am yr ap a’r sioe awyr, a Phrifysgol Abertawe yw’r noddwr allweddol eleni.
Ymysg yr awyrennau sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn mae’r Red Arrows, tîm arddangos Typhoon, y Sea Vixen a Hediad Coffa Brwydr Prydain.
Mae’r ap, sy’n cael ei noddi gan Westy Bae Oxwich ac yn cynnwys talebau gostyngiadau, ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store a Google Play am £1.99.
Bydd diweddariadau am ddim i bobl a brynodd yr ap ar gyfer sioe awyr y llynedd.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Defnyddiwyd yr ap dros 70,000 o weithiau yn ystod digwyddiad y llynedd felly mae’r poblogrwydd hwn, ynghyd â’r adborth cadarnhaol rydym wedi’i dderbyn, wedi ein hannog i’w ailgyflwyno ar gyfer Sioe Awyr Cymru 2017.
“Dyma’r unig le y gall pobl weld yr amserau arddangos, gyda diweddariadau am ddim i’r rheiny a brynodd yr ap y llynedd. Codir tâl i brynu’r ap am y tro cyntaf, ond mae hyn yn helpu i gefnogi’r ffrydiau incwm ar gyfer y digwyddiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy am flynyddoedd i ddod.
“Gyda chynigion arbennig gan fusnesau lleol a llawer o wybodaeth arall, bydd yr ap yn arweiniad cludadwy, defnyddiol dros ben i’r cannoedd ar filoedd o ymwelwyr rydym yn eu disgwyl eto yn y digwyddiad am ddim hwn sydd o safon ryngwladol.
“Bydd llawer o awyrennau eraill a manylion adloniant ar y tir yn cael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesaf wrth i ni barhau i wneud cynnydd ar drefnu digwyddiad sy’n werth dros £1m i economi Abertawe.”
Mae’r ap hefyd yn cynnwys gwybodaeth am leoedd i aros, pethau i’w gwneud a lleoedd i fwyta ac yfed, yn ogystal â dolenni iddynt. Mae nodweddion eraill yn cynnwys bywgraffiadau’r timau arddangos.