Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn llenwi’r awyr uwchben y ddinas fel rhan o ddigwyddiad mwyaf yr haf.
Bydd Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain yn cynnwys y Lancaster, y Spitfire a’r Hurricane. Mae’r awyrennau a fydd yn hedfan o RAF Coningsby yn Swydd Lincoln, yn aml i’w gweld yn ystod achlysuron a digwyddiadau sy’n coffáu’r Ail Ryfel Byd.
Cynhelir Sioe Awyr Genedlaethol Cymru eleni, mewn cydweithrediad â Trade Centre Wales, ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer y Sioe Awyr yw tîm arddangos hofrenydd Black Cats y Llynges Frenhinol a Sally B – y B-17 olaf sy’n medru hedfan yn Ewrop. Defnyddiwyd Sally B yn y ffilm Memphis Belle ym 1990 gyda Matthew Modine, Eric Stoltz a Harry Connick Jr yn serennu ynddi.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’r rhestr o berfformwyr ar gyfer sioe awyr yr haf hwn yn golygu y bydd yn ddigwyddiad heb ei ail eto.
“Mae’r cyfuniad o awyrennau modern ar flaen y gad a’r arddangosiadau hanesyddol megis Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain a Sally B yn siŵr o wefreiddio’r miloedd o wylwyr yn ystod beth sy’n parhau i fod y digwyddiad am ddim gorau o’i fath yng Nghymru.
“Mae’r Sioe Awyr Genedlaethol, sy’n creu miliynau o bunnoedd ar gyfer yr economi leol, yn newyddion gwych ar gyfer pobl a busnesau lleol, yn ogystal ag ymwelwyr ag Abertawe. Mae’n enghraifft ardderchog o sut yr ydym yn sicrhau ein bod ni’n parhau i fanteisio ar leoliad byd-enwog, arfordirol Abertawe drwy drefnu digwyddiadau o’r safon uchaf.”
Cadarnhawyd bellach bob awyren ar gyfer y sioe awyr. Mae arddangosiadau eraill a fydd yn codi i’r awyr yn cynnwys MiG-15, Breitling Wingwalkers, tîm parasiwt y Tigers, y Red Arrows, yr Eurofighter Typhoon, tîm Bronco Demo, Team Yakovlevs, Gerald Cooper a Team Raven.
Cyhoeddir manylion adloniant ar y tir yr wythnos nesaf.
Mae nodweddion yn cynnwys amserlen ddynamig o arddangosiadau a fydd yn cael ei diweddaru ar ddiwrnodau’r sioe awyr, y newyddion diwethaf, gwybodaeth am awyrennau ac arddangosiadau ar y tir, dolenni i ddigwyddiadau eraill a gwestai, yn ogystal â manylion disgowntiau arbennig ym mwytai Abertawe a digwyddiadau eraill.
Mae is-adran disgowntiau arbennig yn cynnwys sawl taleb y gellir eu defnyddio mewn nifer o westai, bwytai ac atyniadau o amgylch Abertawe. Wrth brynu’r ap, bydd gwylwyr hefyd yn helpu i gynnal y sioe awyr yn flynyddol.
Mae lleoedd ym meysydd parcio canol y ddinas yn llanw’n gyflym oherwydd poblogrwydd y digwyddiad, felly mae yn bosib erbyn hyn gadw lle parcio premiwm ar y Rec hefyd. Gellir parcio trwy’r dydd am £16.50 y car. Mae maes parcio’r Rec, sydd ar agor o 9am i 7pm ar ddau ddiwrnod y sioe awyr, ger y brif ardal arddangosiadau tir.