Bydd y ffefrynnau lleol, Tîm Raven, yn ymuno â ni ar ddau ddiwrnod y Sioe Awyr 2022!
Mae’r Ravens yn defnyddio awyren RV Van gyda chymysgedd o 1 RV4 a 4 RV8. Mae pob awyren wedi’i hunan-adeiladu, ond Raven 2 a 4 yn unig sydd wedi’u hunan-adeiladu gan y tîm. Maent wedi’u hadeiladu o alwminiwm ac maent yn defnyddio motorau Lycoming io-360 180hp safonol ynghyd â phropelorau cyson sy’n galluogi cymhareb pŵer i bwysau da, er eu pwysau ysgafn.
Mae’r perfformiad yn dda iawn, yn enwedig y gyfradd ddringo o’i chymharu ag awyren clwb hedfan cyffredinol megis y C152 a’r PA28/38, ond nid ydynt yn awyrennau roced ffibr carbon fel yr Extra 300 a’r Edge 540 sydd hefyd yn cymryd rhan mewn arddangosfeydd a chystadlaethau.
Fodd bynnag, maent yn gwbl erobatig, gydag ystod ‘terfyn-g’ da an gallu erobateg sy’n eu gwneud yn berffaith ar gyfer gofynion Tîm Raven.