Bydd peilotiaid lleol, anturus yn esgyn i’r awyr uwchben Bae Abertawe i ddifyrru miloedd o bobl yr haf hwn.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y bydd Tîm Raven yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ar benwythnos dydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Tîm arddangos erobateg patrymog yw Tîm Raven a gafodd ei ffurfio ym mis Mai 2014 ar ôl i Dîm Osprey a Thîm Viper chwalu.
Mae’r cadarnhad y bydd y tîm yn ymddangos yn sioe awyr am ddim eleni yn dilyn newyddion y bydd y Red Arrows ac Eurofighter Typhoon yn cymryd rhan hefyd.
Caiff mwy o awyrennau ac adloniant eu cadarnhau dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i Gyngor Abertawe geisio gwneud y sioe awyr yn ddigwyddiad blynyddol.
Denodd sioe awyr y llynedd fwy na 170,000 o wylwyr, gan greu dros £7.6 miliwn i economi Abertawe.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’n newyddion gwych fod Tîm Raven bellach wedi cadarnhau ei fod yn cymryd rhan yn sioe awyr yr haf hwn.
“Roedd y tîm yn boblogaidd iawn pan gymerodd ran yn sioe awyr y llynedd, ac mae’r ffaith ei fod yn cymryd rhan yn golygu y bydd y digwyddiad unwaith eto’n arddangos doniau lleol, yn ogystal â pheilotiaid ac awyrennau o bob rhan o’r DU a thramor.
“Mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn ddigwyddiad pwysig am sawl rheswm. Nid yn unig y mae’n rhoi gwledd benigamp i’r llygaid i bobl leol ar garreg eu drws, ond mae hefyd yn denu miloedd o ymwelwyr, gan helpu i gynyddu gwariant yn ein gwestai, ein siopau, ein tafarndai, ein bwytai ac mewn busnesau lleol eraill.
“Rydym am sicrhau bod y digwyddiad yn ysgogi’r economi ymwelwyr. Dyna pam rydym am ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe i sicrhau bod pobl yn cynllunio i aros yma yn ystod cyfnod y digwyddiad bob blwyddyn gan gefnogi cynaladwyedd y sector twristiaeth.
“Gallwn sicrhau’r hai sy’n dwlu ar sioeau awyr ein bod yn dal i ddatblygu’r rhestr derfynol o berfformwyr eleni, a chaiff manylion awyrennau ac atyniadau eraill eu cadarnhau wedi i ni ei chwblhau.
Mae’r Red Arrows, a ffurfiwyd ym 1964, wedi perfformio mwy na 4,700 o arddangosiadau mewn 56 o wledydd ym mhedwar ban byd. Mae’r Eurofighter Typhoon, jet ymladd arloesol, yn gallu hedfan ar gyflymder o oddeutu 1,000mya heb ôl-losgwyr.
Cadwch lygad ar www.sioeawyrcymru.com am y newyddion diweddaraf.