Mae Cyngor Abertawe yn cadarnhau y bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf 2018. Bydd arddangosiadau erobatig gwefreiddiol ac awyrennau hen a chyfoes yn creu cyffro i gannoedd ar filoedd o ymwelwyr yn yr awyr uwchben Abertawe unwaith eto yn yr haf.
Amcangyfrifwyd i 250,000 dyrru i lan y môr fis Gorffennaf y llynedd i fwynhau arddangosiadau a oedd yn cynnwys y Red Arrows, Eurofighter Typhoon, hofrenyddion Chinook ac awyrennau o Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain. Roedd adloniant ar y tir yn cynnwys tanciau, cerbydau cefnogi milwrol, cwrs ymosod a phebyll mawr â gwybodaeth am yrfaoedd yn y Lluoedd Arfog.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Ar ôl sioe awyr hynod lwyddiannus yr haf diwethaf, addawon ni wneud popeth yn ein gallu i’w gwneud yn ddigwyddiad blynyddol yn Abertawe. Mae’r newyddion yma’n dangos ein bod ni’n gwireddu’r addewid hwnnw.
“Rydyn ni’n bwriadu gwneud y sioe awyr flynyddol yn un o ddigwyddiadau angori allweddol rhaglen hynod amrywiol Joio Bae Abertawe sy’n addas i deuluoedd. Trwy wneud hyn yn ddigwyddiad blynyddol, rydyn ni’n credu ei fod e’n rhoi mwy o gyfleoedd i ni ei ddatblygu ymhellach. Bydd e’n gwneud y sioe’n fwy ymarferol o safbwynt masnachol – yn enwedig o ran noddwyr a masnachwyr. Yn bwysig, fel dyddiad sefydlog yn y calendr digwyddiadau blynyddol, bydd e’n rhoi rheswm i bobl drefnu eu gwyliau ymlaen llaw, yn unswydd er mwyn dod i’r digwyddiad. Bydd miloedd o bobl leol yn awyddus i beidio â cholli’r cyfle chwaith.
“Yn ogystal â helpu i godi proffil Abertawe a rhoi adloniant o’r radd flaenaf i bobl leol ar garreg eu draws, mae’r sioe awyr hefyd yn denu miloedd lawer o ymwelwyr i’r ddinas sy’n gwario’u harian mewn siopau, tafarnau, bwytai, gwestai a busnesau lleol eraill.”
“Mae’r ffaith bod y sioe bellach yn ddigwyddiad blynyddol eisoes wedi denu diddordeb nifer o ddarpar bartneriaid masnachol, felly rydyn ni’n gweithio ar roi’r pecynnau noddi hyn ar waith a chadarnhau’r manylion a’r rhestr ddethol ar gyfer y digwyddiad yn yr haf,” meddai’r Cyng. Francis-Davies. “Byddwn ni’n rhoi’r diweddaraf i bobl am ddatblygiadau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf – ac rydyn ni’n annog pawb i gadw llygad ar www.sioeawyrcymru.com”
Dilynwch @sioeawyrcymru ar Twitter a hoffwch dudalen Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ar Facebook am y diweddaraf.