SUT I GYRRAEDD
Cyrraedd yma mewn car
Dilynwch arwyddion y digwyddiad yn Abertawe a dilynwch yr arwyddion meysydd parcio/parcio a theithio priodol. Mae’r brif ardal arddangos ar hyd Prom Abertawe rhwng y senotaff a’r Ganolfan Ddinesig.
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483.
PARCIO
Bydd nifer o feysydd parcio a pharcio a theithio ar gael dros y penwythnos. Ewch i’r dudalen barcio i gael gwybodaeth lawn, mapiau defnyddiol ac i gadw lle ymlaen llaw ar-lein.
CAU FFYRDD
Bydd nifer o ffyrdd ar gau a dargyfeiriadau ar waith dros y penwythnos er mwyn sicrhau diogelwch, diogeledd a mwynhad y rhai sy’n mynd i’r digwyddiad. Mae gwybodaeth am ddargyfeiriadau a’r holl ffyrdd a fydd ar gau ar gael yma.
RHANNU CAR
Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd
CYRRAEDD YMA MEWN TRÊN
Yr orsaf drenau agosaf yw Abertawe Ganolog ar y Stryd Fawr sydd tua 2 filltir i ffwrdd. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf. Os ydych yn teithio ar drên, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael hanner awr i gyrraedd y trên o safle’r digwyddiad. Dylai’r rheiny sy’n mynd i’r sioe gofio amserau’r digwyddiad, ac fe’u cynghorir i wirio gyda’r gweithredwr, www.traveline.cymru.
Ffôn: 03333 211 202
Rheilffordd y Great Western GWR – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2024
Mae Rheilffordd y Great Western yn cynnal gwasanaethau trên hirdaith rhwng dinasoedd i Abertawe ar hyd prif linell De Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Bryste a Gorsaf Paddington Llundain. Mae gorsaf drenau Abertawe 15 munud o Bromenâd Bae Abertawe ar droed neu’n siwrne fer ar y bws. Prynwch docyn ar-lein am y prisiau gorau ac arbedwch arian ar brisiau tocynnau trên nawr yn GWR.com
BYSUS LLEOL
Gwiriwch gyda’ch gweithredwr bysus am fanylion amserlenni bysus oherwydd gall y ffaith fod rhai ffyrdd wedi’u cau effeithio ar y mannau lle mae bysus yn codi/gollwng teithwyr. Am wybodaeth neu ymholiadau am wasanaethau unigol, cysylltwch â First Cymru’n uniongyrchol.
Gwasanaethau Cwsmeriaid: 01792 572 255, 8am – 8pm bob dydd
Traveline: 0800 4640000 (AM DDIM) 7am – 8pm bob dydd
Efallai bydd gwasanaethau arferol yn cael eu hoedi oherwydd traffig trwm a’r rhaglen cau ffyrdd a fydd ar waith. Mwy o wybodaeth.
First Cymru – partner teithio Sioe Awyr Cymru 2024
PARCIO COETSIS
Gellir gollwng pobl ger y Ganolfan Ddinesig (Neuadd y Sir) wrth un o’r safleoedd bysus yna rhaid symud y cerbyd i’r safle parcio coetsis yn safle Parcio a Theithio Fabian Way (bydd mannau parcio coetsis dynodedig ar gael). Mae’n £10 i barcio coets am y diwrnod yn safle Fabian Way.
Mae Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian ger yr A483, tua 1.5 milltir i’r gogledd o ganol y ddinas.
Cyfeiriad: Safle Parcio a Theithio Fabian Way, Fabian Way, Abertawe SA1 8LD
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Traveline Cymru neu ffoniwch 0871 200 2233 am help i drefnu teithiau bws, coets neu drên.
CERDDED A BEICIO
Anogir pobl leol i gerdded neu feicio i’r sioe awyr os oes modd. Bydd llwybrau beicio ar agor ac eithrio o Brom Abertawe rhwng y Mariott a Lôn Sgeti. Bydd y Prom yn brysur iawn o gwmpas yr ardal arddangos ar y ddaear yn San Helen a phob prynhawn yn ystod yr arddangosiadau awyr, felly defnyddiwch y llwybr beicio ar ochr arall y ffordd.
LLEOEDD I AROS
I gael rhestr o leoedd gwych i aros, ewch i’n chwaer wefan, www.croesobaeabertawe.com. Defnyddiwch ei rhestr defnyddiol o westai, gwestai gwely a brecwast a mwy er mwyn trefnu lle i aros. Hefyd, cofiwch wirio’r cynigion argaeledd hwyr yn rheolaidd i gael y bargeinion munud olaf gorau. Mwy o wybodaeth.